Tirwedd Fyw Alun a Chwiler

Alun and Chwiler Living Landscape guided walk

Alun and Chwiler Living Landscape guided walk

TIRWEDDAU BYW

Tirwedd Fyw Alun a Chwiler

Mae’r ardal sy’n cynnwys Afon Chwiler a rhan uchaf Afon Alun wedi cael ei chydnabod ers blynyddoedd lawer fel llecyn pwysig i fioamrywiaeth. Mae’r ardal yn gartref i gynefinoedd pwysig fel coetir hynafol, glaswelltir heb ei wella, rhostir a chynefinoedd o dir gwlyb, yn ogystal â llawer o rywogaethau pwysig, gan gynnwys y pathew, madfall gribog fawr, llygoden ddŵr, dyfrgi, gwybedog brith, tylluan wen a llawer o rywogaethau anghyffredin o blanhigion.                

Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid ar raddfa tirwedd ar hyd dyffrynnoedd afonydd Alun a Chwiler yn adfer, ail-greu ac ailgysylltu cynefinoedd bywyd gwyllt ac yn gweithio gyda phobl a chymunedau lleol.             

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys y canlynol; creu ac adfer gwrychoedd, adfer glannau afonydd, creu pyllau, ffensio ffosydd ar gyfer llygod dŵr, plannu coed a choetiroedd, adfer dolydd, plannu blodau gwyllt, gwneud a gosod blychau i ystlumod ac adar, a digwyddiadau a gweithgareddau ar thema bywyd gwyllt.

Y prosiect diweddaraf o dan y cynllun hwn yw’r prosiect sydd wedi’i gyllido gan y Loteri Fawr, Prosiect Gwyllt Am Yr Wyddgrug, sy’n weithredol tan fis Tachwedd 2019. Mwy am y cynllun hwn ar gael yma ... 

Os hoffech chi helpu bywyd gwyllt yn Nhirwedd Fyw Alun a Chwiler, cysylltwch ag:

Amy Green, Swyddog Tirwedd Fyw (Gwyllt Am Yr Wyddgrug
amy.green@northwaleswildlifetrust.org.uk
Twitter: @ACLLProject

Bod yn wirfoddolwr

Taflen Tirwedd Fyw Alun a Chwiler