Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n ffodus iawn o gael cefnogaeth hael gan bob math o gyrff sy’n dyfarnu grantiau, cyllidwyr a phartneriaid; yn amrywio o roddion o ychydig gannoedd o bunnoedd ar gyfer prosiectau tymor byr i gannoedd ar filoedd o bunnoedd ar gyfer rhaglenni ar raddfa fawr sy’n para am sawl blwyddyn.
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gyffredinol yn hynod ddiolchgar i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl: loteri elusennol ym Mhrydain Fawr lle mae’r chwaraewr yn chwarae gyda’u codau post i ennill gwobrau ariannol a chan godi arian ar gyfer elusennau ar yr un pryd.
Diolch i gefnogaeth y chwaraewyr, bydd yr Ymddiriedolaethau Natur yn ysbrydoli ac yn cysylltu pobl â byd natur drwy rywogaethau gwerthfawr a llefydd gwyllt pwysig; yn darparu cyfleoedd i filoedd o blant o bob oedran dreulio amser ym myd natur drwy weithgareddau dysgu awyr agored; ac yn sefyll dros lefydd gwyllt a’u hamddiffyn pan maent yn wynebu bygythiad sylweddol.
Yma yng Ngogledd Cymru, mae’r chwaraewyr yn cefnogi ...

Family bird watching_David Tipling 2020 VISION
Mynd yn Wyllt!
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n cynhyrchu Gwyllt! – y cylchgrawn Cymraeg cyntaf, a’r unig un, i ieuenctid sy’n hoff o fywyd gwyllt. Yn llawn lluniau, posau a chystadlaethau gwych, mae poster bywyd gwyllt am ddim ar gael ym mhob rhifyn, neu daflen weithgarwch – beth am ddod yn aelod o’r teulu i’w weld drosoch eich hun?

Sea gooseberry_Paul Naylor
Moroedd Byw Cymru
Gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, rydym yn cynnal rhaglen yn dathlu bywyd gwyllt rhyfedd a rhyfeddol ein harfordir, gan gynnwys rhaglen wirfoddoli helaeth; sioe deithiol symudol; cyfres o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn yn edrych ar amgylchedd yr arfordir (archwilio pyllau creigiog, nofio, snorcelu, arfordiro, cerdded, cribo traethau a llawer mwy!); ac adnoddau ac ymgyrchoedd i gael pobl i ymwneud â bywyd gwyllt y môr.

Ysgolion Gwyllt
Diolch i gefnogaeth y chwaraewyr, rydym yn cyflwyno rhaglen addysg ar gyfer ysgolion, gan gynnwys help uniongyrchol i ysgolion ddatblygu a gwella eu tiroedd; sesiynau Ysgol y Goedwig; ymweliadau maes â’n gwarchodfeydd natur; a hyfforddiant i athrawon.