Morloi yng Ngogledd Cymru

Grey seal (c) Neil Aldridge

Grey seal (c) Neil Aldridge

Cadwraeth Forol

Morloi yng Ngogledd Cymru

Morloi Gwych!

Mae morloi llwyd i’w gweld bron yn unrhyw le ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Edrychwch allan am ben yn siglo o gwmpas ar wyneb y dŵr neu mewn rhai mannau fe'u gwelir mewn niferoedd mawr yn gorffwys ar y lan, i fwrw lloi neu flew. Hwy yw’r mwyaf o’r ddwy rywogaeth o forloi a welir o gwmpas y DU – y llall yw’r morlo cyffredin sydd ddim mewn gwirionedd yn gyffredin o gwbl o amgylch Gogledd Cymru. Mae ein dyfroedd arfordirol yn bwysig ar gyfer y rhywogaeth anhygoel hon am sawl cyfnod yn eu cylch bywyd.

Yma yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru rydym yn derbyn nifer fawr o ymholiadau am forloi felly rydym wedi casglu ychydig o atebion i’r ymholiadau neu’r pryderon mwyaf sydd yn codi...

Be' i wneud os...

...rydych eisiau cofnodi digwyddiad o aflonyddu

Yn anffodus mae tarfu ar fywyd gwyllt yn broblem fawr yma yng Ngogledd Cymru ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a sawl sefydliad arall ar y cynllun Operation Seabird gyda’r nod o fynd i’r afael â’r broblem hon. Os gwelwch anifeiliaid yn cael eu haflonyddu ac os ydych yn teimlo bod yr aflonyddwch yn sylweddol, gallwch roi gwybod i Operation Seabird drwy ffonio 101.

Mwy o Wybodaeth

...ydych chi wedi dod o hyd i gi morlo wedi'i adael gan y fam

Rhowch ychydig o amser i edrych yn fanwl ar yr anifail  

Ydych chi'n siŵr bod yr anifail mewn trafferth? Mae morloi iach yn dod allan o'r dŵr yn rheolaidd i orffwys ac mae morloi bach (morloi gyda chôt wen a blew hir yn yr hydref / gaeaf, neu lai na 3 troedfedd o hyd yn yr haf) yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain yn aml am gyfnodau byr. Y peth gorau i'w wneud yw cadw llygad o bell. 

Os yw'r anifail yn amlwg yn sâl, yn dioddef o ddiffyg maeth (asennau i’w gweld yn glir) neu'n ymddangos fel morlo bach wedi’i adael yn amddifad, cysylltwch â: 

British Divers Marine Life Rescue (www.bdmlr.org.uk) ar 01825 765546 neu 07787 433412 (tu allan i oriau); neu’r RSPCA ar 0300 123 4999 

...am gyngor a chymorth. Ar ôl i chi ffonio am help, cadwch lygad o bellter diogel a cheisio cadw pobl eraill a chŵn draw.        

Peidiwch â mynd yn rhy agos - gall morloi frathu’n gas.  

Lloi Morlo Llwyd © Moroedd Gwyllt Cymru

...ydych chi wedi dod o hyd i forlo wedi'i anafu/salwch

Os yw'r anifail yn amlwg yn sâl, yn dioddef o ddiffyg maeth (asennau i’w gweld yn glir) neu'n ymddangos fel morlo bach wedi’i adael yn amddifad, cysylltwch â: 

British Divers Marine Life Rescue (www.bdmlr.org.uk) ar 01825 765546 neu 07787 433412 (tu allan i oriau); neu’r RSPCA ar 0300 123 4999 

...am gyngor a chymorth. Ar ôl i chi ffonio am help, cadwch lygad o bellter diogel a cheisio cadw pobl eraill a chŵn draw.        

Peidiwch â mynd yn rhy agos - gall morloi frathu’n gas.  

...ydych wedi dod o hyd i forlo marw

Dylech osgoi cyffwrdd â'r anifail a gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn golchi eich dwylo os bydd unrhyw gyswllt yn cael ei wneud; gall anifeiliaid morol marw, fel unrhyw anifail arall, gario clefyd neu haint.  Os teimlwch fod yr anifail yn berygl i iechyd y cyhoedd cysylltwch â'ch Cyngor lleol.

Os mai llamhidydd, dolffin neu forfil sydd wedi golchi i fyny cysylltwch â Cetacean Stranding Investigation Programme y DU ar 0800 652 0333. Bydd hyn yn helpu i roi darlun cywir o fywyd morol yn y DU, yn ogystal â gwybodaeth werthfawr am achosion marwolaeth. 

Morloi Llwyd yng Nghymru © Moroedd Gwyllt Cymru