Rhoddion er cof

meadow

Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

GWNEUD CYFRANIAD

Rhoddion er cof

Rhoddion

Mae’n fraint gallu derbyn rhoddion er cof am anwyliaid.

Mae posib rhoi rhoddion er cof i ni yn uniongyrchol, eu trefnu drwy drefnwyr angladdau neu eu sefydlu gan ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti. Rydyn ni'n arbennig o falch o allu cynnal tudalennau ‘er cof’ ar ein gwefan ni ein hunain sy’n dathlu cysylltiad rhywun â bywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru.

Creu tudalen gyfrannu ‘er cof'

Os na fyddwch chi’n defnyddio ein tudalennau ‘er cof’ mewnol, efallai na fyddwn yn dod i wybod am deyrnged rydych chi’n ei chreu. Fodd bynnag, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi – rydyn ni bob amser yn hapus i rannu haelioni teuluoedd a straeon eu hanwyliaid. 

Anfon eich rhodd ar-leinCysylltu â’r tîm gwaddol

Cofebau

Cofio rhywun arbennig gyda gwrthrych neu ddigwyddiad.

Rydyn ni wedi cael y pleser o drefnu llawer o deyrngedau arbennig er cof yn ein gwarchodfeydd ni dros y blynyddoedd ac rydyn ni'n parhau i dderbyn llawer o geisiadau am gofebau newydd. Mae enghreifftiau - ar gyfer pob cyllideb - yn cynnwys placiau a osodwyd ar feinciau sy'n bodoli eisoes, creu meinciau newydd, plannu coed, tirlunio ac adfer adeiladau. Pan dderbynnir ceisiadau, mae ein tîm gwaddol ni’n ymchwilio i'r holl opsiynau sydd ar gael, ond cofiwch nad ydyn ni bob amser yn gallu bodloni’r cais.

Cysylltu â’r tîm gwaddol

Jonathan Yeardley
RHODDION ER COF

Stori Jonathan

Roedd Jonathan eisiau gwarchod yr amgylchedd naturiol a’r cymunedau sy’n byw ynddo. Mae gwybod bod y gwaith hanfodol yma’n parhau er cof amdano’n rhoi llawer o gysur i’w deulu ac mae’n rhywbeth y byddai wedi ei ddymuno’n fawr.

Ewch i dudalen JustGiving Jonathan
Sylvia Brockley

Photo © Hazel Brockley

RHODDION ER COF

Sylvia Brockley

Mae Sylvia yn gyn athrawes roedd wedi ei lleoli ar Ynys Môn ac fe ‘roedd hi ‘n caru dangos i’w hwyrion y byd natur a’r amrywioldeb y tirwedd o gwmpas eu hardal.  Yn 85 oed, fe farwodd Sylvia fis Tachwedd 2023.  Derbyniwyd rodd er cof am dan hi.

“Fe fyddi’n siŵr wedi roi sêl bendith am fy newisiad wrth feddwl am ei chysylltiad oes mewn addysg a’i chariad at natur” – Hazel

Andy Farrell
RHODDION ER COF

Stori Andy

Roedd bywyd gwyllt lleol bob amser yn agos at galon Andy a gwirfoddolodd oriau dirifedi i’w warchod. Er iddo golli ei frwydr yn erbyn canser yn llawer rhy ifanc, mae gwaddol Andy yn fyw o hyd yn ein tirwedd ni ar ôl i’w deulu hyfryd gyfrannu arian a gasglwyd yn ei enw at Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Rhoddion mewn Ewyllysiau

Helpwch i ddiogelu bywyd gwyllt a llefydd gwyllt lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol drwy adael rhodd yn eich Ewyllys.

Mwy am roddion mewn Ewyllysiau