Cyanotype © Justine Montford
Gweithdy Creu Printiau Syanoteip
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae syanoteip yn broses ffotograffig oedd yn hanfodol ar gyfer cofnodi planhigion Prydain yn ystod y 19eg ganrif. Anna Atkins, artist botanegol a chasglwr oedd y person cyntaf i ddarlunio llyfr gyda delweddau ffotograffig, gan ddefnyddio amlygiad golau a phroses gemegol syml i greu glasbrintiau manwl o sbesimenau.
Cyfle i ddysgu mwy am yr hanes yma a rhoi cynnig arni eich hun yn y gweithdy creadigol. Beth am edrych ar ein harddangosfa newydd tra byddwch chi yma?
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim. Os byddwch chi'n archebu tocyn ond wedyn yn penderfynu peidio â dod neu'n methu dod, rhowch wybod i ni drwy Eventbright. Yn aml, mae ein digwyddiadau ni am ddim yn llawn ac mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosibl fwynhau'r digwyddiad.
Rhan o'n prosiect Dihangwyr Gerddi yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy'n cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei chyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.