Tu Hwnt i'r Ffin: Dihangwyr Gerddi ym Mhlas Glyn y Weddw

A close up of cotoneaster on a rock. A woody plant, with lot of tiny dark green leaves and bright red berries.

Cotoneaster at Rhiwledyn Nature Reserve © Lin Cummins

Tu Hwnt i'r Ffin: Dihangwyr Gerddi ym Mhlas Glyn y Weddw

Lleoliad:
Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwwlheli, Gwynedd, LL53 7TT
Cyfle i archwilio hanes planhigion ymledol yn y DU a sut maen nhw'n effeithio ar ein hamgylchedd ni heddiw. Gan gynnwys gwaith gan yr artist Manon Awst.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Theatr John Andrews, Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7TT, North Wales

Dyddiad

-
Time
9:30am - 5:00pm
A static map of Tu Hwnt i'r Ffin: Dihangwyr Gerddi ym Mhlas Glyn y Weddw

Ynglŷn â'r digwyddiad

Ydych chi wedi clywed am rywogaethau ymledol erioed? Dewch draw i'n harddangosfa ni, Tu Hwnt i'r Ffin: Dianc o Erddi, wrth iddo symud i'w leoliad terfynol ym Mhlas Glyn y Weddw i ddarganfod popeth amdanyn nhw!

Cyfle i archwilio rhywogaethau ymledol problemus, gan gynnwys eu perthynas â ffiniau ein gerddi a'r gwyllt, drwy hanes a chelf. Cewch weld y cerflun sydd wedi’i greu gan yr artist Manon Awst sydd wedi'i gomisiynu fel rhan o'r arddangosfa yma.

Cyflwynir yr arddangosfa mewn dwy iaith, Cymraeg a Saesneg.

Yn newydd ar gyfer y lleoliad yma mae profiad rhyngweithiol wedi'i ymgorffori yng ngwaith celf Manon, oriel wedi'i diweddaru o blanhigion i gadw llygad amdanyn nhw yn eich gardd, a ffilm fer wedi'i diweddaru.

Mae Theatr John Andrews wedi'i lleoli ar hyd y llwybr i'r chwith o'r brif neuadd ym Mhlas Glyn y Weddw. Mae'r arddangosfa wedi'i lleoli yn yr ystafell islaw'r amffitheatr awyr agored.

Mae'r arddangosfa hon yn rhan o'n prosiect Dihangwyr Gerddi yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy'n cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei chyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Nid yw archebu'n hanfodol, ond mae'n ein helpu ni i gadw golwg ar nifer yr ymwelwyr

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig
image/svg+xml

Symudedd

AcLleoliad hygyrch. Am ddatganiad mynediad llawn ewch i: oriel.org.uk/cy/access-statement

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Ydyn
image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Mae system barcio (Parking Eye) yn weithredol ar y safle. Mae'r ddwy awr gyntaf am ddim, ond rhaid talu am amser ychwanegol. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar yr arwyddion yn y maes parcio a nodwch fod y ffioedd yn berthnasol i ddeiliaid bathodyn glas hefyd.
image/svg+xmli

Facilities

Toiledau
Siop
Caffi / lluniaeth
Toiled i'r anabl
Disabled parking

Cysylltwch â ni