
Brown long-eared bat © Hugh Clark
Taith Gerdded Ystlumod Cors Goch
Gwarchodfa Natur Cors Goch,
Llanbedrgoch , Ynys Môn, LL78 8JZManylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Byddwn yn cyfarfod yng Nghors Goch ac yn cerdded i fwthyn Bryn Golau am sgwrs wrth dân gwersylla (os yw'r tywydd yn caniatáu) am fywyd nos Cors Goch, cyn mynd allan i'r warchodfa yn y gwyll gydag un o’n swyddogion gwarchodfeydd ni, gyda sbienddrych ac offer canfod ystlumod.
Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn y Llwyfan Mapio Cyhoeddus i gofnodi'r hyn rydyn ni’n ei ddarganfod ac yn uwchlwytho'r data i Cofnod fel bod posib rhannu ein canfyddiadau gyda'r gymuned gadwraeth ehangach.
Mae'r digwyddiad yn addas i deuluoedd ac mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda. Os yw'r tywydd yn caniatáu, bydd gennym ni dân gwersylla agored yn y digwyddiad. Gofynnwn i bob plentyn (ac oedolyn) ymddwyn yn gyfrifol yn ystod y digwyddiad.
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.
Bwcio
Pris / rhodd
Mae croeso i roddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruYn addas ar gyfer
Teuluoedd, DechreuwyrGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda.