
The Menai suspension bridge © Jayke Forshaw
Taith gerdded gwarchodfa natur gudd
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Coed Porth-aml,
Thomas Telford Centre.
Porthaethwy, Isle of Anglesey
Gwarchodfa Natur Coed Porth-aml,
Thomas Telford Centre.Porthaethwy, Isle of Anglesey
Ymunwch â ni am daith gerdded drawiadol ar hyd Afon Menai, gan gynnwys ymweliad â Gwarchodfa Natur Coed Porth-aml, sydd pur anaml yn cael ei gweld.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae'r daith gerdded yn cynnwys lonydd gyda choed bob ochr a llwybrau troed cyhoeddus, gan gynnwys rhan o Lwybr Arfordir Ynys Môn ar hyd Afon Menai. Byddwn yn galw heibio gwarchodfa goetir Coed Porth-aml.
Fe ddefnyddiwyd y warchodfa natur yma fel chwarel galchfaen o gyfnod y Brythoniaid hynafol hyd at yr ugeinfed ganrif. Er ei fod wedi'i leoli ger arfordir poblogaidd Ynys Môn, mae'r coetir yn teimlo'n dawel ac yn anghysbell, ac mae'n lle gwych i weld adar a glöynnod byw y coetir.
Cofiwch ddod â phicnic! Byddwn yn stopio am damaid i'w fwyta gyda golygfa dros Afon Menai, tuag Eryri a Phenrhyn Llŷn, wrth wylio'r adar a bywyd gwyllt arall.
Bwcio
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Cysylltwch â ni
Rhif Cyswllt: 07725174087
Cysylltu e-bost: caroline.bateson@northwaleswildlifetrust.org.uk