Ffrwydradau naturiol rhyfeddol …

Ffrwydradau naturiol rhyfeddol …

Yellow antler fungus - Guy Edwardes 2020Vision

Os ewch chi draw am dro i’r coed heddiw, efallai y cewch chi sypreis!

Tua’r adeg yma o’r flwyddyn mae eich coetir lleol yn cael ei drawsnewid yn rhyfeddol. Mae ffrwydradau naturiol rhyfeddol yn mynd i ymddangos ar lawr y goedwig ac ar ganghennau sydd wedi syrthio. Ffyngau yw’r tyfiant rhyfedd yma o wahanol siâp, maint a lliw. Mae’n amser iddyn nhw ledaenu eu sborau er mwyn sicrhau bod cydbwysedd naturiol ein coetiroedd ni’n parhau. 

Ffyngau yw madarch, caws llyffant, rhedyn a llwydni i gyd. Gyda’i gilydd, maent yn ddadelfenwyr byd natur, yn pydru’r holl bren a dail marw a’u troi’n bridd llawn maethynnau. Mae llawer yn fuddiol i’r coed o’u cwmpas ac mae proses o’r enw symbiosis yn digwydd, lle mae’r ffyngau’n glynu wrth system wreiddiau coeden ac yn elwa o rannu maethynnau hanfodol gyda’i gilydd. Mae ‘Gwe Coed Eang’ yn bodoli hyd yn oed: rhyngrwyd y fforest, sy’n cael ei ddefnyddio gan systemau ffyngau i drosglwyddo gwybodaeth i’r coed am yr amodau o’u cwmpas. 

Gall ffyngau fod yn fuddiol i bobl hefyd – mae rhai’n flasus iawn i’w bwyta ac mae pawb wedi clywed am benisilin, y gwrthfiotig sydd wedi newid y byd. Er hynny, mae rhai’n angheuol o wenwynig – mae rheswm da dros enwau’r ffyngau cap marwolaeth ac angel angau!  

Yr hydref yma, beth am gael canllaw bychan i gaeau a mynd allan am dro i weld be welwch chi? Gwell fyth, dewch draw ar helfa sydd wedi’i threfnu i ddysgu popeth am yr organebau pwysig yma. Mae gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sawl digwyddiad wedi’i gynllunio ar gyfer y misoedd sydd i ddod – dewch draw i un a dewch â phicnic gyda chi. Fe ddewch chi o hyd i fwy na thedi bêrs i’ch difyrru chi!

 

Gwelwch ein holl ddigwyddiadau Helfeydd Ffwng yma

Oeddech chi’n gwybod?

Mae gan rai ffyngau enwau anhygoel ac mae straeon gwerin cyfareddol yn gysylltiedig â nhw – meddyliwch am y peli du sy’n cael eu galw hefyd yn deisennau’r Brenin Alfred, sêr daear, codau mwg a chlustiau’r ysgaw! Maen nhw’n gallu arogli’n rhyfeddol hefyd, gydag arogl cnau coco, had anis, mêl a rwber, neu hyd yn oed hen olew sglodion; ac mae rhai ffyngau’n goleuo yn y tywyllwch.