‘Llefydd Gwyllt i’w Darganfod’ – ar gael nawr!

‘Llefydd Gwyllt i’w Darganfod’ – ar gael nawr!

SpinniesAberogwen Nature Reserve_Brian McGarry

Ar ôl misoedd o waith cynllunio, mae ein canllaw i’n gwarchodfeydd natur a llecynnau pwysig i fywyd gwyllt ar yr arfordir yn barod nawr – ac mae cynnig arbennig i ddarllenwyr Wythnos Wyllt hefyd!

Ydych chi wedi meddwl erioed y byddai’n braf cael gwybodaeth am bob un o’n 36 o warchodfeydd natur ar flaen eich bysedd? Nawr, diolch i’n canllaw lliw newydd, 96 tudalen, sydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, fe allwch chi gael yr wybodaeth yma.

Mae ein llyfr yn cynnwys gwybodaeth am rai o’r llefydd mwyaf arbennig i fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys crynodebau am y rhywogaethau a’r cynefinoedd gorau i’w gweld ym mhob tymor, cyfarwyddiadau llawn a mapiau safle. Er mai ein gwarchodfeydd natur ni yw’r prif ffocws, rydyn ni hefyd wedi dod o hyd i le i dynnu sylw at chwe safle sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt i ymweld â nhw ar yr arfordir, lle mae bywyd gwyllt y môr i’w weld a’i brofi drwy gydol y flwyddyn.

I ddiolch i chi am danysgrifio i Wythnos Wyllt, mae cynnig arbennig ar gael i chi (a darllenwyr Natur, ein cylchgrawn ni). Mae’r llyfr ar werth ar ein gwefan ni am £7.50 + post a phacio – i chi, hoffem ei gynnig am £5.00, a gostyngiad ar bost a phacio o £1.00 y copi. Wrth gwrs, gallwch arbed y costau post a phacio’n llwyr drwy alw yn ein pencadlys ni yn Llys Garth ym Mangor – cofiwch grybwyll y cynnig pan rydych chi’n prynu.

Reserve Guide mock up_Wild Places to Explore

I brynu eich copi heddiw, neu am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01248 351541 a gofyn am Bleddyn neu Gwyn. Byddwn yn cymryd manylion eich cerdyn dros y ffôn a byddwch yn cael eich copi (neu gopïau – mae’n anrheg da iawn!) yn y post. Cofiwch mai dim ond i gefnogwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mae’r cynnig arbennig ar gael a dim ond am gyfnod cyfyngedig!