Adferiad byd natur wrth galon gofynion yr etholiad

Adferiad byd natur wrth galon gofynion yr etholiad

Wales representatives at the Time is Now Mass Lobby, Houses of Parliament, June 2019

Mae’r Etholiad Cyffredinol yn gyfnod allweddol i fywyd gwyllt. Beth allwch chi ei wneud i helpu i greu dyfodol gwyllt?

Mae miloedd o bobl wedi bod yn galw ar wleidyddion i sefyll dros fyd natur ac mae’r etholiad yma’n gyfle i dynnu mwy o sylw at hynny. Er bod gan Lywodraeth y DU lai o bŵer dros yr amgylchedd yma yng Nghymru, fe allwn ni i gyd barhau i annog y pleidiau a’u hymgeiswyr i weithredu i helpu i newid pethau ledled y DU a thu hwnt.             

Yn fwy na hynny, mae’r momentwm dros newid yn cynyddu. Dangosodd pôl diweddar gan YouGov bod dwy ran o dair o bobl yn cytuno mai’r amgylchedd ac argyfwng yr hinsawdd yw’r broblem fwyaf sy’n wynebu’r ddynoliaeth a dywedodd mwy na hanner (54%) y byddai’n effeithio ar sut byddant yn pleidleisio yn yr etholiad sydd i ddod.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cysylltu â’r ymgeiswyr seneddol ac yn gofyn iddynt ymrwymo i fesurau uchelgeisiol a fydd yn gwarantu adferiad bywyd gwyllt drwy sicrhau bod y polisïau canlynol wrth galon maniffesto eu plaid:                     

  • Ymrwymiad i gyflwyno’r deddfau amgylcheddol newydd uchelgeisiol sy’n gosod byd natur wrth galon gwaith Llywodraeth y DU, gyda thargedau sy’n rhwymo’n gyfreithiol ar gyfer byd natur a chreu Rhwydwaith Adfer Natur i greu ac adfer cynefinoedd.
     
  • Cyflwyno polisïau newydd cynaliadwy sy’n cefnogi rheolwyr tir a ffermwyr i gyflawni manteision cyhoeddus eang, gan gynnwys byd natur cyforiog ac ecosystemau cadarn, priddoedd iach, dŵr glân a lliniaru newid hinsawdd.                  

Datblygu Strategaeth Forol newydd yn Lloegr a gweithredu Ardaloedd Morol Gwarchodaeth Uchel i adfywio ein moroedd ni.

Beth am ofyn y cwestiynau canlynol i’ch ymgeiswyr lleol a chael sicrwydd y bydd y blaid o’ch dewis yn cefnogi adferiad byd natur?   

1. Sut byddwch chi a’ch plaid yn gweithredu’n bendant i fynd i’r afael ag argyfwng yr amgylchedd naturiol?

2. Beth fyddwch chi a’ch plaid yn ei wneud i gefnogi ffermwyr i gyfrannu at adferiad byd natur?     

3. Beth fydd eich plaid yn ei wneud i warchod ac adfywio ein moroedd?