Morfoch Mawr Llwyd

Morfoch Mawr Llwyd

Rissos dolphin (c) Eleanor Stone

Ychydig iawn da ni’n wybod ynglŷn â’r creadur anhygoel hyn sef y dolffin Risso – ond nawr yw amser gora’r flwyddyn i dreulio ychydig o amser yn gwylio’r môr yn edrych am yr ymwelwyr anhygoel hyn.

Mae dolffiniaid Risso yw gweld trwy ‘r byd ac yw darganfod yn y dyfroedd trofannol hyd at ddyfroedd tymherus fel Gogledd Cymru.  Y gred yw eu bod yn bwydo ar greaduriaid fel yr octopws a’r ystifflog, a hyn rhan fwyaf o adegau yn y nos wrth i’w prae symud at wyneb y môr wrth ymyl y disgynfeydd serth a’r ffosydd dwfn.  Maent yn hawdd i’w hadnabod gyda eu croen llwyd-ariannog a’i creithiau hirfain gwyn trawiadol, a rhain yn cynyddu tros amser i roi argraff fod rhywun wedi ymosod arnynt hefo brwsh paent.  Y teimlad yw fod y creithiau hyn wedi cael eu achosi gan eu prae neu gan ddolffiniaid Risso eraill tra’n chware a chwffio – fe all unigolion hun edrych bron iawn yn wyn.  Nodwedd arall amlwg sydd yn helpu eu hadnabod yw’r asgell gefn tal: un o’r talaf mewn chymhariaeth a hyd y corff ymysg unrhyw rywogaeth morfilaidd (morfil, dolffin neu llamhidydd) eraill.

Er nac ydym yn gwybod llawer am yr creaduriaid anhygoel hyn, un o’r llefydd gora i’w gweld yn y DU yw Gogledd Cymru.. Amser hyn o’r flwyddyn mae’n werth trip i bendraw Penrhyn Llŷn at Ynys Enlli; neu trïwch arfordir gogleddol Ynys Môn.  Topograffeg cymhleth gwely’r môr sy’n galluogi nhw i fanteisio ar gyfoethogrwydd y bwyd yma.  Maent eu gweld yn aml yn powlio yn hamddenol braf ar wyneb y dŵr neu’n teithio’n araf yn y dŵr garw sy’n amgylchynu ein harfordir.  Ar ddiwrnodau heulog, y rhan amlaf eu creithiau gwyn, yn yr haul llachar, sydd yn dal eich llygad – ond cofiwch hefyd gadw llygad allan am y sblashis wrth iddynt lanio ar ôl neidio yn drawiadol wrth ben y môr!

Anelwch am yr arfordir a treuliwch ychydig o amser yn chwilota am y dolffin Risso, llamhidyddion a morloi.  Gadewch i ni wybod be y gwelwyd trwy tudalen Facebook Moroedd Byw Cymru.

Rissos dolphin - Niki Clear

Rissos dolphin (c) Niki Clear