Darganfod bywyd gwyllt a llefydd gwyllt yn 2019!

Darganfod bywyd gwyllt a llefydd gwyllt yn 2019!

Winter silhouette - David Tipling 2020Vision

Beth am roi dechrau gwyllt i’r Flwyddyn Newydd gydag ymweliad â’ch gwarchodfa natur leol? Mae gennym ni 36 i’w darganfod …

Ydi, mae hi’n dwll y gaeaf gyda’r dydd yn fyr a’r tawelwch ar ôl cyffro’r Nadolig yn dechrau dod i’r amlwg – un ffordd o gael y gorau ar y felan yw codi allan a manteisio i’r eithaf ar eich gwarchodfa natur leol. Lapiwch yn gynnes a mynd allan i gael gwared ar dipyn o we pryf cop wrth ddarganfod eich hoff le gwyllt newydd!            

Oeddech chi’n gwybod bod cefnogaeth aelodau’r Ymddiriedolaeth Natur yn galluogi i ni reoli a gofalu am 36 o warchodfeydd natur ledled Gogledd Cymru? Efallai bod gennych chi eich hafan bersonol chi? Rhiwledyn o bosib – ardal drawiadol iawn ar y Gogarth gyda golygfeydd gwych o’r môr a bywyd gwyllt rhyfeddol y glaswelltir; Chwarel Minera – lle mae pŵer anhygoel byd natur i’w weld ar waith wrth iddo raddol adennill yr hen safle diwydiannol yma; neu unrhyw un o’r 34 sy’n weddill! Mae mwy o wybodaeth am bob un ohonyn nhw ar gael ar ein gwefan ni.

I’ch helpu chi i fwynhau’r amrywiaeth gyfoethog o brofiadau tymhorol a bywyd gwyllt, rydyn ni’n cynhyrchu canllawiau a mapiau gwarchodfa dwyieithog yn rheolaidd – ac mae’r pedwar diweddaraf ar gael nawr fel lawrlwythiadau o’n gwefan ni neu o’n swyddfa ni ym Mangor. Defnyddiwch nhw i archwilio Maes Hiraddug, Cors y Sarnau, Spinnies Aberogwen a Choed Trellyniau – a rhoi gwybod i ni sut hwyl gawsoch chi.

www.northwaleswildlifetrust.org.uk/nature-reserves

Reserve guide and map for Spinnies Aberogwen nature reserve

Reserve guide and map for Spinnies Aberogwen nature reserve