Cors Dyfi: croesawu afancod!

Cors Dyfi: croesawu afancod!

David Parkyn - David Parkyn/ Cornwall Wildlife Trust

Efallai bod Gwarchodfa Natur Cors Dyfi yn fwyaf enwog am ei gweilch y pysgod ond, cyn bo hir, bydd dau famal newydd sy’n byw ar y ddaear yn cyrraedd yno! Ar ôl misoedd lawer o gynllunio a thrafod, mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn wedi cael trwydded o’r diwedd i ryddhau pâr o afancod Ewrasiaidd i safle yma – a byddwch yn gallu mynd i’w gweld nhw.

Heddiw, cors fawn yn yr iseldir yw Cors Dyfi – cynefin eithriadol bwysig yng Nghymru – ond roedd yn cael ei defnyddio ar un adeg fel planhigfa gonwydd. Oherwydd bod y tir gweddillol yma’n anodd, yn hen ffosydd coedwigaeth a boncyffion coed, mae rheoli rhannau o’r warchodfa gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, fel tocio â llaw, yn amhosibl bron. Felly, dros y blynyddoedd, mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn wedi bod yn ystyried ystod o opsiynau rheoli amgen, gan gynnwys byffalo dŵr. Yn ystod y blynyddoedd mwy diweddar, mae afancod – y cyfeirir atynt yn aml fel ‘peirianwyr ecosystemau’ ac sy’n adnabyddus am eu gallu anhygoel i reoli cynefinoedd gwlybdir – wedi dod i’r amlwg fel ateb delfrydol.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Prosiect Afancod Cymru, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran holl Ymddiriedolaethau Natur Cymru, wedi bod yn cynorthwyo Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn gyda’i chynlluniau drwy wneud cais am drwydded i ryddhau afancod i’r safle caeedig a’i ariannu. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyfoeth Naturiol Cymru yr hydref diwethaf a chafodd gefnogaeth gyhoeddus nodedig iawn, yn enwedig gan aelodau a chefnogwyr yr Ymddiriedolaethau Natur – diolch yn fawr! O’r diwedd, mae trwydded wedi’i rhoi bellach – felly mae afancod yn cael eu dewis o’r Alban ar hyn o bryd ac, yn dilyn sgrinio iechyd, byddant ar eu ffordd i Gymru cyn bo hir. Byddant yn cael amser i setlo i mewn i’w hamgylchedd newydd a, maes o law, bydd ymwelwyr â’r warchodfa’n gallu gweld beth maen nhw wedi bod yn ei wneud.

Yn olaf, er bod dyfodiad afancod i Gors Dyfi’n ddigwyddiad cyffrous, nid dyma ddiwedd Prosiect Afancod Cymru. Byddwn yn parhau â’n cynigion ar gyfer ailgyflwyno afancod i’r gwyllt, dan reolaeth, a, maes o law, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn gwneud penderfyniad. Does gennym ni ddim amheuaeth y bydd arnom angen eich help unwaith eto a byddwn yn sicr yn gofyn i’n holl gefnogwyr ni ymateb i’r ymgynghoriad pan fydd yn cael ei gynnal – gwnewch yn siŵr bod eich lleisiau a’ch bysellfyrddau’n barod!

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr afancod yn: www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/welshbeaverproject