Bwydo’r adar y Nadolig yma

Bwydo’r adar y Nadolig yma

Blue tit at feeder © Gillian Day

Gyda’r Nadolig rownd y gornel, beth am roi anrheg i adar yr ardd y gaeaf yma? Dyma rai ffyrdd o helpu – gan gynnwys canllaw ar wneud torch syml i fwydo adar!

Gyda’r dyddiau’n oeri ac yn byrhau, mae adar yr ardd yn ei chael yn fwy anodd dod o hyd i fwyd. Mae adar angen storfeydd hanfodol o fraster i gynnal tymheredd y corff dros fisoedd y gaeaf, pan nad oes aeron ar y coed a phan mae pryfed blasus yn cael eu claddu dan rew y ddaear. Mewn byd sy’n mynd yn fwy a mwy trefol, mae teclynnau bwydo adar yn llawn stoc dda o fwyd yn adnodd cwbl hanfodol i adar yr ardd.  

Mae hefyd yn syniad da newid rhywfaint o’r hadau adar am gynhyrchion gyda mwy o fraster. Efallai nad ydi siwet neu flociau lard at eich dant chi, ond maen nhw’n wych i’n ffrindiau bach pluog ni – gan eu helpu i baratoi haenen gynnes ar gyfer y dyddiau barugog sydd o’n blaen! Edrychwch ar wefan Vine House Farm Bird Foods i stocio bwyd adar eleni  – bydd 4% o werth eich archeb yn cael ei gyfrannu’n ôl i’ch Ymddiriedolaeth Natur leol, gan wneud i’ch arian fynd ymhellach!

Download your Activity Sheet here ...

Chwilio am rywbeth hwyliog i’w wneud gyda’r plant dros y gwyliau? Neu ffansi gosod addurniadau Nadolig yn eich gardd hefyd? Beth am ddilyn ein canllaw cyflym a rhwydd i wneud torch Nadolig yn benodol ar gyfer adar! Bydd posib i chi ategu eich teclynnau bwydo presennol gyda’r greadigaeth Nadoligaidd yma, ac efallai nad dim ond Sion Corn fydd yn ymweld â’ch tŷ chi y Nadolig yma.