Bocsio amdani!

Bocsio amdani!

Willow warbler © Margaret Holland

Beth mae adar yn ei wneud yr adeg yma o’r flwyddyn, a sut gallwn ni helpu?

Er bod llawer o adar yn brysur yn gwneud dim byd ond goroesi’r oerni yr adeg yma o’r flwyddyn, wrth i’r dydd ymestyn, gall eraill gael eu hannog i ddechrau magu. Efallai bod rhai rhywogaethau preswyl eisoes yn chwilota am leoliadau ac yn sefydlu tiriogaethau, neu’n adeiladu nythod, ac efallai bod y rhai sy’n magu’n gynnar, fel cigfrain, yn dodwy wyau hyd yn oed. Ar ddyddiau llonydd ym mis Chwefror, efallai y clywch chi ddrwm stacato cyntaf cnocell y coed yn atseinio oddi ar goeden wag, neu dresglen lwyd yn canu’i chân drist, bersain o’r canghennau uchaf sy’n noeth o hyd. Mae’r Diwrnod Gwylio Adar yn Spinnies ar Chwefror 23ain yn gyfle i chwilio am yr arwyddion yma o’r gwanwyn, yng nghanol yr eirlysiau (os nad plu eira!), a’r cyfoeth o adar sy’n treulio’r gaeaf ar yr aber.              

Cyn y tymor magu go iawn, gallwn hefyd helpu llawer o rywogaethau o adar drwy ddarparu bocsys nythu sy’n efelychu’r safleoedd sydd wedi’u colli drwy weithgarwch amrywiol gan bobl. Byddai adar y coetir, fel y titw a’r gwybedog, wedi dibynnu ar amrywiaeth o goed hŷn gyda digonedd o dyllau naturiol; yn draddodiadol, mae tylluanod gwynion yn defnyddio adeiladau sy’n adfeilion neu adeiladau allanol gyda mynediad agored; ac mae gwenoliaid duon yn defnyddio ceudodau o dan y bondo – ac mae llawer o’r rhain wedi lleihau yn eu niferoedd yn ddiweddar. Dyma amser perffaith i geisio helpu, wrth i adar baru a chwilio am gartref, ac mae’r Wythnos Bocsys Nythu Genedlaethol (14 – 22ain Chwef) yn canolbwyntio ar yr opsiynau.

Gallwch gymryd rhan drwy wneud neu brynu eich bocs eich hun a’i osod mewn lleoliad addas:

Lawrlwythwch daflen weithgarwch yma er mwyn gwneud bocs nythu i ditwod