Ystlumod yn eich clochdy?!

Ystlumod yn eich clochdy?!

Brown long-eared bat © Hugh Clark

Mae help wrth law i adnabod eich ystlumod lleol ar Ynys Môn, yng Ngwynedd, ac i’r gorllewin o Afon Conwy

Mae ‘Deall Eich Amgylchedd’ yn brosiect peilot cyffrous i alluogi i chi gael gwybod mwy am eich ystlumod lleol. Mae ystlumod yn hedfan yn ystod y nos wrth gwrs, pan mae’n anodd eu gweld, ac nid ydym yn gallu eu clywed fel rheol. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gwybod pa fath o ystlumod sydd o gwmpas fel arfer – neu a ydynt yn bresennol o gwbl. Yn ffodus, mae technoleg fodern yn golygu ein bod yn gallu gwrando ar eu byd drwy ddefnyddio canfyddwyr ystlumod i gofnodi eu cri fain.

Rydym yn gwybod bod 17 o rywogaethau o ystlumod yn byw yn y DU – mae 15 o’r rhain i’w cael yng Nghymru. Maen nhw i gyd yn wahanol ac mae ganddyn nhw eu hanghenion ecolegol felly mae’n bwysig ein bod yn dysgu mwy am y rhywogaethau o ystlumod sydd gennym ni a ble maent i’w gweld.

Mae’r prosiect yn galluogi i chi fenthyg pecyn canfod ystlumod o ganolfan fenthyg leol (Bangor, Penrhyndeudraeth, neu Langefni) am ychydig o nosweithiau i gofnodi’n awtomatig gri eco-leoliad eich ystlumod lleol. Gallai hyn fod mewn coetir, parc lleol neu yn eich gardd gefn hyd yn oed. Bydd yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Cadwraeth Ystlumod yn dadansoddi’r recordiadau ac yn anfon adroddiad atoch yn nodi beth rydych wedi’i ganfod, ac arwydd o lefel eu gweithgarwch. 

Os ydych chi eisiau cymryd rhan yn y prosiect, bydd rhaid i chi archebu canfyddwr drwy system archebu ar-lein a fydd yn eich cyfeirio i ganolfan fenthyg. Bydd rhaid i chi allu casglu’r pecyn canfyddwr. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer sut i archebu ar gael yma: https://www.bats.org.uk/our-work/in-wales/deall-ecosystemau-understanding-our-environment