Adfer Coetiroedd – tyfu ein cynlluniau

Adfer Coetiroedd – tyfu ein cynlluniau

Common beech woodland in autumn © Mark Hamblin 2020Vision

Un maes gwaith newydd a chynyddol i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yw darparu coed wedi’u tyfu yn lleol ar gyfer cynlluniau plannu ar raddfa fechan ac rydym yn chwilio am help i ddatblygu ein cynlluniau ymhellach.

Dod yn wirfoddolwr yn ein meithrinfeydd coed

Dim ond rhai o'r rhesymau dros blannu mwy o goed yn ein tirwedd yw adfer coetiroedd a gwrychoedd, ailgysylltu cynefinoedd darniog, brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a lleihau’r risg o lifogydd. A dyma nodau allweddol ein Prosiect Coetiroedd ar gyfer Dŵr. Yn gweithio yn ein swyddfa yn Aberduna, mae'r rheolwr prosiect Jonny Hulson a'r swyddog prosiect Sarah Ellis wedi datblygu meithrinfa helaeth o fwy nag 20,000 o goed.

Ar hyn o bryd mae’r rhywogaethau o goed yn cynnwys derw digoes, gwerni, cyll, bedw llwyd, afalau surion bach, pinwydd yr Alban, helyg, oestrwydd, ceirios, aethnenni, drain gwynion, drain duon, criafol, bedw arian a mwy. Mae rhai o'r rhywogaethau prinnaf sydd wedi’u tyfu o hadau neu doriadau yn cynnwys poplys duon, pisgwydd dail bach, llwyfenni llydanddail a cherddin gwyllt.

Tree nursery

Aberduna tree nursery / Meithrinfa goed Aberduna. © NWWT Chris Wynne

Bydd y coed hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Mae hyn yn cynnwys plannu coed heb ffensys ar gyfer cynefinoedd arbenigol ar lethrau ac mewn eithin; plannu gwrychoedd ar gyfer cau bylchau neu ailsefydlu hen wrych neu greu gwrych newydd; plannu cyfoethog mewn coetiroedd i gynyddu amrywiaeth rhywogaethau; plannu coedlannau glan afon i gynyddu amsugno dŵr a lleihau dŵr ffo ar safleoedd arbennig o wlyb. Defnydd diddorol arall yw drwy stancio helyg ar gyfer sefydlogi glannau afonydd a lleihau erydiad drwy greu rhwystr byw sy'n dal y pridd yn ôl yn ogystal â gwreiddio yn y lan a'i sefydlogi.

Un agwedd y mae'r tîm Coetiroedd ar gyfer Dŵr yn canolbwyntio arni yw gallu darparu coed o darddiad lleol ar gyfer ei brosiectau. A gyda hyn mewn golwg rydym yn bwriadu datblygu dwy feithrinfa goed lloeren bellach yng Ngwarchodfeydd Natur Gwaith Powdwr a Chors Goch. Rydym yn ffodus bod gennym gyllid gan ddwy o'n Partneriaethau Natur Lleol (Gwynedd ac Ynys Môn a'u cyllid Natur ar Garreg Eich Drws). Bydd pob meithrinfa newydd yn datblygu dros gyfnod o amser ac efallai'n arbenigo mewn darparu rhywogaethau penodol neu sut mae'r coed yn cael eu tyfu (pot neu wreiddyn noeth). Bydd y coed fydd yn cael eu tyfu’n cael eu defnyddio yn lleol, gan gynnwys mewn cynlluniau plannu yn ein gwarchodfeydd natur ond hefyd mewn prosiectau plannu coed bach.

Tree nursery

Gwaith Powdwr (building known as T3) - renovated thanks to funding from the Gwynedd Local Nature Partnership / Gwaith Powdwr (adeilad o’r enw T3) – adnewyddwyd diolch i gyllid gan Bartneriaeth Natur Leol Gwynedd. © NWWT Rob Booth

Tree nursery

Gwaith Powdwr - the beginnings of a tree nursery; potted oak seedlings / Gwaith Powdwr – dechrau sefydlu meithrinfa goed; eginblanhigion coed derw mewn potiau. © NWWT Rob Booth

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn tyfu coed neu os hoffech chi ddatblygu eich sgiliau yn y pwnc hwn a'n helpu ni i ddatblygu ein meithrinfeydd newydd beth am gysylltu drwy ein tudalennau gwirfoddoli ar y we.

Dod yn wirfoddolwr

Tree nursery

Making a start - clearing the former vegetable garden at Cors Goch. Work funding through the Anglesey Local Nature Partnership / Dechrau arni – clirio’r hen ardd lysiau yng Nghors Goch. Cyllidwyd y gwaith drwy Bartneriaeth Natur Leol Ynys Môn. © NWWT Chris Wynne