Gwarchodfa Natur Big Pool Wood

Big pool Wood

Big Pool Wood Nature Reserve © Roger Riley

Big Pool Wood

© Mark Roberts NWWT

Big Pool Wood

©Mark Roberts NWWT

Big Pool Wood

© MarkRoberts NWWT

Reed warbler in fens, David Tipling - 2020 Vision

Reed warbler in fens © David Tipling 2020 Vision

Reed warbler

Reed warbler © Amy Lewis

Water rail

Water rail © Margaret Holland

Corslwyn ryfeddol a choetir yn llawn blodau gwyllt, cân adar a chyfleusterau sy’n rhoi cyfle i chi fynd yn nes at natur.

Location

Gronant
Sir y Fflint
CH8 9JN

OS Map Reference

SJ102838
OS Explorer Map 265
A static map of Gwarchodfa Natur Big Pool Wood

Know before you go

Maint
4 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Dewch o hyd i le parcio diogel ar ochr y ffordd ger yr ysgol farchogaeth (SJ 102 838) neu cymerwch y chwith cyntaf i ddefnyddio'r maes parcio.

Anifeiliaid pori

Ceffylau yn yr ysgol farchogaeth gyfagos.

Llwybrau cerdded

Mae yma gylchdaith o gwmpas y llyn ar hyd y llwybrau pren a’r llwybrau wyneb caled.

Mynediad

Mae’r llwybrau pren a’r llwybrau wyneb caled yn caniatáu mynediad i gadeiriau olwyn o amgylch y warchodfa ac i ddau o’r tri cuddfannau adar.  Mae stepiau i’r drydedd gydfan, “Cuddfan Gill”. Mae mynediad i’r brif fynedfa trwy Ysgol Farchogaeth Bridlewiood.  Mae’r llwybr gyda wyneb caled, ond yn ystod tywydd gwlyb fe all fod yn fwdlyd oherwydd natur awyrgylch stablau ceffylau.

Dogs

Ar dennyn
i

Facilities

Cuddfannau

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Amser gwanwyn ar gyfer blodau gwanwyn a chân adar

Am dan y warchodfa

Adar, llwybrau pren a chlychlys  

Mae llwybr pren a chuddfan adar Big Pool Wood yn galluogi i chi fod yn agos iawn at y bywyd gwyllt yn y warchodfa natur hyfryd yma o gorslwyn a choetir sy’n llawn adar a phlanhigion. Mae ymylon llennyrch y coetir yn troi’n las llachar yn y gwanwyn wrth i glychau’r gog flodeuo ac mae’r cyrs yn adleisio gyda synau teloriaid y gors, sy’n cyrraedd yn y gwanwyn o Affrica i nythu yn eu canol. Yn yr haf, mae clychau glas o fath gwahanol i’w gweld yma – mae clychlys cawraidd sy’n brin yn lleol yn gwneud eu cartref yma yng nghanol blodau gwyllt mwy nodweddiadol y coetir – ac mae hwyaid gwyllt, cwtieir ac ieir dŵr i’w gweld yma ac acw y tu ôl i’r cyrs wrth i’r haul dywynnu arnynt.

Mae’r safle’n rhan o Ardal Gwarchodaeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy – rhanbarth dan warchodaeth sy’n gartref i fwy na 120,000 o adar dŵr a rhydio yn ystod y gaeaf. Mae Big Pool Wood yn darparu cysgod a lloches i rai o’r adar gwlybdir hyn ac yn rhan o goridor bywyd gwyllt sy’n ymestyn ar hyd yr arfordir bob cam i Ynys Môn; sy’n hynod bwysig i adar mudol o bob math.

Dŵr, dŵr ym mhob man!
Mae’r rheolaeth ar Big Pool Wood yn canolbwyntio ar gadw cydbwysedd rhwng yr holl agweddau gwahanol ar y safle - gan gynnwys cynnal lefelau dŵr priodol. Mae coed yn cael eu hatal rhag ymledu i’r cyrs, sydd, yn eu tro, yn cael eu teneuo i gynnal sianelau o ddŵr agored. Mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn astudio hydroleg y safle i ganfod ffyrdd o godi lefelau’r dŵr daear, i fod o fudd i’r coetir gwerni a’r corslwyn yn y tymor hir. 

Oeddech chi’n gwybod?
Mae gwerni’n cynnwys bacteria cywiro nitrogen yn nodylau eu gwreiddiau (am hynny, mae’r gwerni’n rhoi i’r bacteria y siwgr maent yn ei wneud fel rhan o ffotosynthesis). O ganlyniad, mae’r gwerni’n gwella ffrwythlondeb y pridd ble bynnag maent yn tyfu.

Cyfarwyddiadau
Mae Gwarchodfa Natur Big Pool Wood ryw 2.5 milltir i’r dwyrain o Brestatyn. O’r A548, dilynwch yr arwyddion brown am Ysgol Farchogaeth Bridlewood – mae’r drofa gyferbyn â thafarn Bells of St Mary. Chwiliwch am le diogel i barcio ar ochr y ffordd ger yr ysgol farchogaeth (SJ 102 838) neu gymryd y tro cyntaf ar y chwith i ddefnyddio’r maes parcio. 

Ymunwch fel aelod o dim ond £3 y mis a'n helpu ni i amddiffyn mwy o leoedd fel hyn

Contact us

Paul Furnborough
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Gwlybdir o Bwysigrwydd Rhyngwladol
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
SPA

Gwnewch Rodd

Cefnogwch ein gwaith ni ar Big Pool Wood heddiw.
£

©NWWT

Big Pool Wood

Big Pool Wood Nature Reserve © Mark Hughes

Map a llyfryn gwarchodfa

Lawrlwythwch
Bird hide at Big Pool Wood Nature Reserve 

Bird hide at Big Pool Wood Nature Reserve © Mark Hughes

Water vole_Terry Whittaker2020VISION

Water vole © Terry Whittaker2020VISION

Support us

Join today!

Young woman birdwatching at Rutland Water
From £3.00 a month

Aelodaeth unigol / Individual

Aelodaeth unigol ar gyfer un person
Couples membership
From £3.50 a month

Cyd-aelodaeth / Joint

Aelodaeth ar y cyd i ddau berson
A small boy carrying a stick, walking through a woodland with large old trees and bluebells carpeting the floor. Behind him is a young girl running up to him, and a woman bending down to look at the flowers.
From £4.00 a month

Aelodaeth deuluol / Family

Aelodaeth deuluol gydag ychwanegiadau i blant