COP26

Sign reading climate justice now

Unsplash

COP26 – beth sydd ei angen?

Beth yw COP26?

Ystyr COP yw 'Cynhadledd o’r Pleidiau' a chynadleddau’r CU yw’r rhain ar eu gwahanol gonfensiynau.

COP26 yw lle mae arweinwyr y byd yn dod at ei gilydd i siarad am newid yn yr hinsawdd a sut i fynd i'r afael ag ef, gan mai hwn yw'r COP ar gyfer Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd.

Mae eleni’n nodi’r 26ain uwchgynhadledd COP - dyma pam mae’n cael ei galw yn COP26 – ac mae’n cael ei chynnal ar 1-12 Tachwedd 2021 yn y DU. Mae’n cael ei chynnal yma eleni oherwydd bod y DU wedi llwyddo yn ei chais i'w chynnal - mae hyn yn golygu ei bod wedi ymgymryd â'r Arlywyddiaeth. Dewiswyd Glasgow fel y lleoliad, yn rhannol oherwydd ymrwymiad y ddinas i gynaliadwyedd. Mae'r chwyddwydr bellach ar y DU i ddarparu arweinyddiaeth fyd-eang sy'n cynyddu uchelgais ac yn troi addewidion yn gamau y mae eu gwir angen i fynd i'r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd sy’n mynd law yn llaw.

Yma, rydym yn edrych ar yr hyn rydym yn ei ddisgwyl yn ystod yr uwchgynhadledd, a'r arweinyddiaeth sydd ei hangen i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael yn fyd-eang â’r argyfyngau natur ac hinsawdd.

Beth ydym eisiau ei weld yn COP26?

COP26 yw ein cyfle i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur gyda'n gilydd. Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn cyfrannu at ddirywiad natur, ac mae colli bywyd gwyllt a chynefinoedd yn ein gadael yn brin o adnoddau i leihau allyriadau ac addasu i newid. Rhaid i arweinwyr byd-eang sefyll gyda’i gilydd ac ymgorffori gweithredu dros yr hinsawdd ac adferiad natur ar draws eu polisïau. Yn fras, mae arnom angen y canlynol:

  1. ​​​​Cyfres o bolisïau cenedlaethol o bob gwlad i gadw 1.5C o fewn cyrraedd
    Mae hyn yn hanfodol i ddiogelu amgylchedd naturiol y DU rhag newid trychinebus na ellir ei wyrdroi. 
  2. Arweinyddiaeth
    Rhaid i'r DU arwain y ffordd yn COP26 - a dangos y dull priodol o weithredu gartref. Ar hyn o bryd nid yw Llywodraeth y DU ar y trywydd i addasu i newid yn yr hinsawdd, nac i gyflawni allyriadau Sero Net, ac eto mae'n rhaid i'r DU chwarae ei chyfran deg a hanesyddol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd y mae'n gyfrifol amdano, a chefnogi'r gwledydd sy'n datblygu i ymdopi ag effeithiau newid yn yr hinsawdd nad oes ganddynt lawer o gyfrifoldeb hanesyddol amdanynt. 
  3. Cysill
    Cytundeb y bydd y gwledydd yn buddsoddi mewn datrysiadau natur o ansawdd uchel (e.e. creu ac adfer mawndiroedd a chorsydd halen) sy'n cael eu datblygu mewn partneriaeth â chymunedau lleol i helpu i liniaru yn erbyn, ac addasu i, newid yn yr hinsawdd ar raddfa fyd-eang.

Sut gallai’r ymrwymiadau hyn fod yn weithredol gartref?

Felly, beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? Dylai pob polisi fod yn cyfrannu at adfer natur, NID ei ddiraddio. Mae hyn yn golygu amddiffyn yr hyn sydd gennym eisoes yn well, a'i ehangu. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o amddiffyn 30% o dir a môr erbyn 2030 ac i gyflawni Sero Net erbyn 2050. Mae'n swnio'n dda, ond nid yw'r amddiffyniad yr un peth ag adfer. Mae angen i Gymru fod yn Carbon Negyddol a Natur Gadarnhaol erbyn 2030.

Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i'r canlynol:

  1. Adfer 100% o fawn yr ucheldir cyn 2030
    A chyflwyno gwaharddiad ar unwaith ar losgi cylchdro, er mwyn rhoi'r cyfle gorau i fawn oroesi mewn amodau poethach a sychach wrth i'r hinsawdd newid 
     
  2. Defnyddio'r system gynllunio i helpu i roi sylw i argyfwng yr hinsawdd
    Cyflwyno dynodiad Gwregys Gwyllt newydd a datblygu Rhwydwaith Adfer Natur with galon system gynllunio'r dyfodol yn mynd i'r afael a'r argyfwng wrth ddarparu cyfleoedd i bobl o bob cefndir gael mynediad i leoedd sy'n llawn bywyd gwyllt yn eu cymunedau. 
     
  3. A Targed Cyflwr Natur sy'n rhwymo'n gyfreithiol i atal a gwyrdroi dirywiad byd natur erbyn 2030
    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i darged natur sy'n rhwymo'n gyfreithiol ond rhai i hyn alluogi adfer natur erbyn 2030. Dylai'r target hwn gael ei atgu gan fuddsoddiad newydd sylweddol mewn atebion sy'n seiliedig ar natur i helpu Cymru i addasu i'n hinsawdd sy'n newid.
     
  4. Cyflwyno Cynllun Fferimio Cynaliadwy
    Mae tir amaethyddol yn gorchuddio dros 70% o Gymru, felly mae'n hanfodol ar gyfer adferiad natur ar dir. Rhaid cymell ffermwyr i storio carbon ac adfer natur twy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
     
  5. Gwell rheolaeth ar ein moroedd
    30% or holl Ardaloedd Morol Gwarchodedig sydd wedi'u dynodi'n Ardaloedd Morol Hynod Warchodedig, gyda pholisiau pysgota a chynllunio gofodol morol sy'n cyfrannu at ddiogelu a gwella storfeydd carbon glas.
Blue tit nest

© Amy Lewis

Derbyniwch newyddion bywyd gwyllt yn dyddiol o COP26

Ymunwch â rhestr bost COP26 yr Ymddiriedolaethau Natur

Mynychu ein digwyddiad ar-lein, am ddim, byw o COP26

Byddwn yn dod atoch yn fyw o COP26 ar nos Sul 7 Tachwedd am 7pm gyda phennod arbennig iawn o'n cyfres Wild LIVE. Bydd panel gwych o arbenigwyr ac ymgyrchwyr hinsawdd a natur yn ymuno â ni wrth iddynt drafod pam y mae'n rhaid i ni ddod â natur yn ôl ar raddfa uchelgeisiol er mwyn delio â'r argyfwng hinsawdd.

Cofrestru i fynychu

Darganfod y pethau y gallwch eu gwneud am newid yn yr hinsawdd

Mae gennym rai ffyrdd syml i’ch helpu chi i leihau eich ôl troed carbon ac addasu i newid yn yr hinsawdd. 

Cipolwg

Local COP26 events