Ffrydio!

Ffrydio!

Mae wedi brofi – gwylio rhaglenni dogfen ar fyd natur yn rhoi hwb i’ch hwyliau da.

Rydym wedi casglu rhestr o raglenni dogfen a ffilmiau ar fyd natur ac mae rhain i’w gweld islaw ble y gallwch eu ffrydio a llwyr ymgolli ynddynt – gobeithiwn y gwnewch fwynhau!

Blue Planet 1/2

Ar y foment fe allwch wylio y ddwy gyfres o Blue Planet ar Netflix ac maent yn esgus perffaith i golli eich hyn ac i ddisgyn mewn cariad a’n moroedd.  Wedi eu lleisio gan David Attenborough, gewch archwilio y 5 cefnfor a’r 7 gwahanol foroedd ar draws y byd.  Gyda arddangosfeydd gweledol, a ffeithiau syfrdanol am fywyd gwyllt syfrdanol y byd, rydym yn gaddo byd syfrdanol y gallwch ddengid iddo!

Wild

Ffilm ynglŷn â darganfod eich hyn a natur fel rhan o’ch gwelliant.  Wedi selio ar sori wir Cheryl Strayed, wedi ysgariad wael a phroblemau eraill yn ei bywyd personol, mae Cheryl yn penderfynu cerdded y Pacific Crest Trail – heic oddeutu 1,100 milltir drwy y gwyllt i ddarganfod maddeuant a harddwch yn y byd.

Tystysgrif: 15

Birders

Caru adar?  Mae Birders yn archwilio ymfudiadau y nifer fawr o rywogaethau adar sydd yn tramwyo’n llwyddiannus y ffin rhwng yr UD-Mecsico pob blwyddyn, ar adarwyr sydd ar y ddwy ochr i’r ffin sydd yn dathlu eu siwrnai.   Fe gewch chi llwyr ymgolli eich hynn wrth wylio o foethusrwydd eich soffa!

Our Planet

Cyfres Netflix, wedi eu lleisio gan David Attenborough, yn ein hebrwng ni unwaith eto o gwmpas y byd i ffocysu ar y rhannau gorau o’r byd natur.  Rhaglenni gwych a rhagorol sy’n tynnych gwynt sydd hefyd yn trafod effaith mae newid yn yr hinsawdd yn cael ar ein byd natur.

Peter Rabbit

Stori glasurol gyda gogwydd fodern, mae Peter Rabbit  yn wrthdyniad hwyliog i’r teulu oll*!  Wedi gosod yng nghefn gwlad hardd Prydain paratowch eich hunan i chwerthin ac i’ch diddanu.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau y hoffech weld yn y rhestr, e-bostiwch ni a gadewch i ni wybod!

Cysylltwch