Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025

Harvest mouse

Harvest mouse ©Amy Lewis

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025

Lleoliad:
Glasdir Conference Centre, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
Mae croeso i bob aelod a chefnogwr yn ein 62ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Dyma'ch cyfle chi i glywed am y gwaith y mae eich Ymddiriedolaeth Natur wedi bod yn ei wneud a'n cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol. Hefyd ... Gwobrau Gwirfoddolwyr, sesiwn Holi ac Ateb, cyflwyniadau a mwy! Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol AM DDIM i'w fynychu ond cofrestrwch isod os gwelwch yn dda.

Manylion y digwyddiad

Dyddiad

Time
12:30pm - 4:00pm
A static map of Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025

Ynglŷn â'r digwyddiad

MAE'R CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL AM DDIM I'W FYNYCHU, OND COFRESTRWCH EICH PRESENOLDEB AC ARCHEBWCH GINIO YMLAEN LLAW (£10.50) GAN DDEFNYDDIO'R BOTWM ARCHEBU ISOD

12:30 Cinio* - dewch â phecyn cinio, neu archebwch ymlaen llaw isod

13:30 Cyfle i gael gwybod am ein cynlluniau uchelgeisiol ni i wneud mwy dros fywyd gwyllt Gogledd Cymru!

CCB 13:45

  • Cymeradwyo cofnodion CCB 2024
  • Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025
  • Cymeradwyo ein Herthyglau Cwmni wedi'u diweddaru
  • Penodi Archwilwyr yr Ymddiriedolaeth
  • Ethol y pwyllgor
  • Unrhyw fater arall
  • Sesiwn Holi ac Ateb**
  • Gwobrau gwirfoddolwyr

15:00 - Paned

15:30 - Sgwrs: 'Beth sy'n digwydd yn eich Ymddiriedolaeth Natur?'

16:00 - Cloi

Gwybodaeth bellach: *ARCHEBWCH EICH CINIO YMLAEN LLAW ERBYN 01 TACHWEDD wrth gofrestru eich presenoldeb gan ddefnyddio'r botwm ARCHEBU isod. Bydd y cyflenwyr bwyd lleol rhagorol, Blas ar Fwyd, yn darparu cinio bwffe (cawl a brechdan) am £10.50. Opsiwn fegan ar gael.

**Sesiwn Holi ac Ateb: Gofynnir yn garedig i chi gyflwyno unrhyw gwestiynau ar e-bost i info@northwaleswildlifetrust.org.uk cyn dydd Gwener 17eg Hydref.

Eisiau darllen mwy? Gallwch weld neu lawrlwytho'r dogfennau canlynol:

Agenda CCB 2025

Cofnodion CCB 2024

Aelodau sy'n sefyll i'w hethol

Parcio a thrafnidiaeth: Mae gan Ganolfan Gynadledda Glasdir yn Llanrwst gyfleusterau parcio ar y safle. Mae wedi'i lleoli yn adeilad Glasdir, wrth ymyl Llyfrgell Llanrwst, ac mae'n agos at ganol tref Llanrwst gyda chyfleusterau fel caffis a siopau, yn ogystal â'r gorsafoedd trên a bysiau. Er bod maes parcio Glasdir yn rhad ac am ddim o'r blaen, mae bellach yn faes parcio talu ac arddangos.

Adroddiad Blynyddol Llawn (yn dod yn fuan)

Adroddiad Effaith 2024-2025 (yn dod yn fuan)

neu gofynnwch am gopi post drwy info@northwaleswildlifetrust.org.uk neu 01248 351541

Bwcio

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig
image/svg+xml

Symudedd

Mae canolfan gynadledda Glasdir yn gwbl hygyrch. Os oes gennych unrhyw anghenion penodol, rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch â'ch pecyn cinio neu archebwch ginio bwffe ymlaen llaw (cawl a brechdan). Os oes gennych ofynion dietegol penodol heblaw am fegan, anfonwch e-bost info@northwaleswildlifetrust.org.uk

image/svg+xmli

Facilities

Toiledau
Toiled i'r anabl
Disabled parking