Sapling © Ben Hall/2020VISION
Ymunwch â ni am sgwrs ar-lein gyda Jenny Wong wrth iddi drafod ei gwaith yn datblygu meithrinfa ar gyfer coed sy’n frodorol i Eryri.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Time
7:30pm - 9:00pm
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae Jenny wedi bod yn gweithio'n agos gyda sefydliadau cadwraeth lleol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, i sicrhau bod coed brodorol yn cael eu defnyddio wrth reoli gwarchodfeydd.
Hoff goeden Jenny yw’r Aethnen sydd, oherwydd arferion pori hanesyddol, wedi profi dirywiad i ychydig iawn o blanhigion sy'n ceisio dal ati i fodoli mewn llecynnau anodd eu cyrraedd.
Dewch draw i ddysgu mwy am ei gwaith!
Mae’r digwyddiad yma’n cael ei gynnal gan grŵp adar Bangor.