Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni

Surveyors Shoresearch Llanfairfechan

Surveyors Shoresearch Llanfairfechan © NWWT

Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni

Lleoliad:
Rhos on sea, Beachfront opposite Abbey drive, Conwy, LL28 4PB
Rhowch gynnig ar ein harolygon ni o lannau creigiog ledled Gogledd Cymru

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Ar ben y stepiau i lawr i'r traeth, gyferbyn ag Abbey Drive (Grid ref: SH 83921 81251; W3W: units.minus.those).
View on What3Words

Dyddiad

Time
4:15pm - 5:45pm
A static map of Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dyma gyfle i ymuno â'n gwirfoddolwyr Shoresearch ni a dysgu am ein harolygon rhynglanwol i weld ydyn nhw'n eich siwtio chi. Rydyn ni allan bob mis mewn tair ardal hwb yn cofnodi'r hyn rydyn ni’n ei weld ar y lan er mwyn sefydlu llinell sylfaen hanfodol a helpu i gofnodi newidiadau.

Ar agor i bobl o bob lefel (16+ yn unig) - byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant sydd arnoch ei angen!

Methu dod y tro yma ond eisiau ymuno? Mae mwy o ddyddiadau'r arolwg i’w gweld yma.

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.

Bwcio

Pris / rhodd

Mae croeso i roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Does dim toiledau yn agos at y traeth. Mae'r traeth yn wastad gyda chreigiau wedi'u gorchuddio ag algâu a phyllau creigiog yn ardal yr arolwg. Mae’r mynediad i'r traeth i lawr stepiau cerrig ac ar draws cerrig crynion.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn agos at y traeth yma, cofiwch wirio: https://www.traveline.cymru/
 

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Nac ydyn
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Mae'r digwyddiad yma ar gyfer pobl 16+ oed yn unig. Gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ac ar gyfer penlinio ar draeth gwlyb. Bŵts neu welingtyns yw'r esgidiau mwyaf addas.

Nodyn: nodwch yr union fan cyfarfod gan ddefnyddio'r cyfeirnod grid neu wybodaeth what3words. Nodwch hefyd rif ffôn symudol arweinydd y digwyddiad rhag ofn y bydd problemau ar y diwrnod.

Cysylltwch â ni