Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni'

Survey volunteers Shoresearch Cricieth Feb 2025

Survey volunteers Shoresearch Cricieth Feb 2025 © NWWT

Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni'

Lleoliad:
Criccieth, Marine drive, Gwynedd, LL52 0EN
Cyfle i ddysgu popeth am yr arolygon bywyd gwyllt rydyn ni'n eu cynnal rhwng y llanwau a chymryd rhan yn y prosiect gwyddoniaeth y dinesydd pwysig yma. Mwy o ddyddiadau arolygu ar ein gwefan ni.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod ar y darn gwyrdd ger maes parcio Marine Drive (LL52 0EN / butterfly.debut.lows

Dyddiad

Time
3:00pm - 4:30pm
A static map of Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni'

Ynglŷn â'r digwyddiad

Bob mis rydyn ni’n cynnal arolygon Shoresearch gyda gwirfoddolwyr mewn tair ardal ledled Gogledd Cymru. Mae'r gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ac yn dysgu popeth am y byd natur y gallwch chi ddod o hyd iddo yn rhynglanwol ac wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau maen nhw’n casglu gwybodaeth sylfaenol hanfodol sy'n allweddol ar gyfer cadwraeth forol. Dyma'ch cyfle chi i ddysgu mwy a gweld ydi hyn yn rhywbeth yr hoffech chi ymuno ag ef.Ar agor i bobl o bob lefel - byddwn yn addysgu popeth sydd angen i chi ei wybod!

Methu dod y tro yma ond eisiau ymuno? Mae mwy o ddyddiadau'r arolwg i’w gweld yma.

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith. 

Bwcio

Pris / rhodd

Mae croeso i roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad sy’n dal dŵr ac esgidiau sy'n addas ar gyfer ardaloedd llithrig, creigiog, gwlyb a hallt.

Nodwch y man cyfarfod penodol a rhif ffôn symudol y trefnydd rhag ofn y bydd arnoch ei angen ar y diwrnod.

Mae toiledau ar gael heibio'r castell, ond dydyn nhw ddim yn agos at yr ardal arolygu.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Mae angen talu am barcio yn y maes parcio, ond mae am ddim ar y stryd gerllaw. Mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus aml o ardaloedd Pwllheli a Phorthmadog.

Cysylltwch â ni