Taith Gerdded Ystlumod Cors Goch

A small brown bat with large rounded ears, at least a third of it's body length, and wings spread wide as it leaps from the tree on the left side of frame. The background is pitch black as it is night, with a few branches of green leaves coming in from the left where the tree is.

Brown long-eared bat © Hugh Clark

Taith Gerdded Ystlumod Cors Goch

Lleoliad:
Cyfle i archwilio bywyd nos Gwarchodfa Natur Cors Goch ar y daith gerdded tân gwersylla ac ystlumod yma sy'n addas i deuluoedd.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Mewn cilfan ar y ffordd sy'n mynd tua'r gogledd o Lanbedrgoch. Mae lle parcio ar gael mewn cilfan fawr cyn cyrraedd y warchodfa o'r de. ///ramble.garage.trickled

Dyddiad

Time
7:00pm - 9:00pm
A static map of Taith Gerdded Ystlumod Cors Goch

Ynglŷn â'r digwyddiad

Byddwn yn cyfarfod yng Nghors Goch ac yn cerdded i fwthyn Bryn Golau am sgwrs wrth dân gwersylla (os yw'r tywydd yn caniatáu) am fywyd nos Cors Goch, cyn mynd allan i'r warchodfa yn y gwyll gydag un o’n swyddogion gwarchodfeydd ni, gyda sbienddrych ac offer canfod ystlumod.

Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn y Llwyfan Mapio Cyhoeddus i gofnodi'r hyn rydyn ni’n ei ddarganfod ac yn uwchlwytho'r data i Cofnod fel bod posib rhannu ein canfyddiadau gyda'r gymuned gadwraeth ehangach.

Mae'r digwyddiad yn addas i deuluoedd ac mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda. Os yw'r tywydd yn caniatáu, bydd gennym ni dân gwersylla agored yn y digwyddiad. Gofynnwn i bob plentyn (ac oedolyn) ymddwyn yn gyfrifol yn ystod y digwyddiad.

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.

Bwcio

Pris / rhodd

Mae croeso i roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ar dennyn

Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda.

image/svg+xml

Symudedd

Mae gan y warchodfa dir serth ac anwastad a llwybrau pren cul ar y gors sy’n gallu bod yn llithrig mewn mannau.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Mae dod â welingtyns yn syniad da. Os nad oes gennych chi welingtyns, rhowch wybod i ni a nodi eich maint pan fyddwch chi’n archebu ac fe allwch chi fenthyg rhai o'n rhai ni.

Dewch â dillad addas ar gyfer y tywydd, gan gofio y bydd yn oeri wrth i'r nos fynd yn ei blaen.

Mae toiled ar y safle a bydd gennym ni ddiodydd poeth ar gael.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Mae parcio ar gael mewn cilfan fawr cyn cyrraedd y warchodfa o'r de. ///ramble.garage.trickled
image/svg+xmli

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni