Pryfed, trychfilod a chwedlau – taith gerdded dywys sy’n addas i deuluoed

A young girl wearing pink and purple, crouching down to look through a large pink magnifying glass at a big log with moss on it. A second child is out of focus stood behind her.

Children looking for insects © Adrian Clarke

Pryfed, trychfilod a chwedlau – taith gerdded dywys sy’n addas i deuluoed

Lleoliad:
Rhyd y Foel village green, Cwymp Road, Rhyd-y-foel, Conwy, LL22 8FG
Ymunwch â’n taith gerdded ni sy’n addas i deuluoedd drwy laswelltir calchfaen prin ger Rhyd y Foel. Cyfle i fwynhau helfeydd pryfed a llên gwerin mewn cynefin sy’n llawn blodau gwyllt!

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod ar lawnt pentref Rhyd y Foel, y tu allan i'r ganolfan gymunedol. Mae llefydd parcio ar ochr y ffordd gerllaw ar gael. Côd post: LL22 8FG / What3Words: increased.circus.pounding.
View on What3Words

Dyddiad

Time
10:00am - 12:30pm
A static map of Pryfed, trychfilod a chwedlau – taith gerdded dywys sy’n addas i deuluoed

Ynglŷn â'r digwyddiad

Byddwch yn dechrau o Ryd y Foel ar antur deuluol fywiog i Ben y Corddyn Bach, lle byddwch chi’n archwilio glaswelltir calchfaen prin a gwerthfawr sy’n gyforiog o flodau gwyllt.

Cewch ymgolli mewn helfeydd pryfed cyffrous, darganfod creaduriaid cudd, a chael eich swyno gan lên gwerin hudolus sy’n dod â’r cynefin unigryw yma’n fyw.

Yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant 5 oed a hŷn, mae’r daith gerdded 3km yma’n cynnwys seibiant rheolaidd i gadw pawb yn llawn egni ac yn mwynhau. Byddwn yn mynd allan i Ben y Corddyn Bach ac wedyn yn dilyn ein camau’n ôl i Ryd y Foel.

Rhan o Brosiect Gwreiddiau Cymunedol Glaswelltir Calchfaen.

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Mae'r llwybr yn dilyn llwybrau troed clir, yn croesi ffordd dawel, ac yn cynnwys tir anwastad, bryniog. Does dim toiledau ar y llwybr.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Mae esgidiau cryf yn hanfodol. Gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer y tywydd a dewch â digon o ddŵr.

Cysylltwch â ni