Pryfed, trychfilod a chwedlau – taith gerdded dywys sy’n addas i deuluoed

Pryfed, trychfilod a chwedlau – taith gerdded dywys sy’n addas i deuluoed

Lleoliad:
Rhyd y Foel village green, Cwymp Road, Rhyd-y-foel, Conwy, LL22 8FG
Ymunwch â’n taith gerdded ni sy’n addas i deuluoedd drwy laswelltir calchfaen prin ger Rhyd y Foel. Cyfle i fwynhau helfeydd pryfed a llên gwerin mewn cynefin sy’n llawn blodau gwyllt!

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Llain gwyrdd pentref Rhyd y Foel (y tu allan i’r ganolfan gymunedol) LL22 8FG/W3W: pothole.attaching.triads
View on What3Words

Dyddiad

Time
10:00am - 12:30pm
A static map of Pryfed, trychfilod a chwedlau – taith gerdded dywys sy’n addas i deuluoed

Ynglŷn â'r digwyddiad

Byddwch yn dechrau o Ryd y Foel ar antur deuluol fywiog i Ben y Corddyn Bach, lle byddwch chi’n archwilio glaswelltir calchfaen prin a gwerthfawr sy’n gyforiog o flodau gwyllt.

Cewch ymgolli mewn helfeydd pryfed cyffrous, darganfod creaduriaid cudd, a chael eich swyno gan lên gwerin hudolus sy’n dod â’r cynefin unigryw yma’n fyw.

Yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant 5 oed a hŷn, mae’r daith gerdded 3km yma’n cynnwys seibiant rheolaidd i gadw pawb yn llawn egni ac yn mwynhau. Byddwn yn mynd allan i Ben y Corddyn Bach ac wedyn yn dilyn ein camau’n ôl i Ryd y Foel.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Mae’r llwybr yn dilyn llwybrau troed sydd wedi’u sefydlu, yn croesi ffyrdd tawel, ac yn cynnwys dringo dros gamfa. Mae’r tir yn anwastad. Does dim toiledau ar hyd y llwybr.

 

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Nac ydyn
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Esgidiau addas ar gyfer tir garw. Dewch â dillad addas ar gyfer y tywydd a digon o ddŵr i fod yn gyfforddus drwy gydol y daith gerdded.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Parcio: Mae lle parcio ar y ffordd ar gael wrth ymyl llain gwyrdd pentref Rhyd y Foel a’r ganolfan gymunedol.

Cysylltwch â ni