Pryfed, trychfilod a chwedlau – taith gerdded dywys sy’n addas i deuluoed
Lleoliad:
Rhyd y Foel village green, Cwymp Road, Rhyd-y-foel, Conwy, LL22 8FG
Ymunwch â’n taith gerdded ni sy’n addas i deuluoedd drwy laswelltir calchfaen prin ger Rhyd y Foel. Cyfle i fwynhau helfeydd pryfed a llên gwerin mewn cynefin sy’n llawn blodau gwyllt!
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Byddwch yn dechrau o Ryd y Foel ar antur deuluol fywiog i Ben y Corddyn Bach, lle byddwch chi’n archwilio glaswelltir calchfaen prin a gwerthfawr sy’n gyforiog o flodau gwyllt.
Cewch ymgolli mewn helfeydd pryfed cyffrous, darganfod creaduriaid cudd, a chael eich swyno gan lên gwerin hudolus sy’n dod â’r cynefin unigryw yma’n fyw.
Yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant 5 oed a hŷn, mae’r daith gerdded 3km yma’n cynnwys seibiant rheolaidd i gadw pawb yn llawn egni ac yn mwynhau. Byddwn yn mynd allan i Ben y Corddyn Bach ac wedyn yn dilyn ein camau’n ôl i Ryd y Foel.
Bwcio
Pris / rhodd
Croesawn roddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruYn addas ar gyfer
TeuluoeddGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Cysylltwch â ni
Rhif Cyswllt: 07398156396
Cysylltu e-bost: Hannah.Everett@northwaleswildlifetrust.org.uk