Crwydro Rhiwledyn

Red-tailed bumblebee

Red-tailed bumblebee ©Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Ymunwch â thaith gerdded hamddenol o amgylch pentir calchfaen Rhiwledyn. Cyfle i ddarganfod y planhigion, y pryfed a'r adar sy'n ffynnu yma.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod wrth fynedfa Gwarchodfa Natur Rhiwledyn LL30 3AY. w3w/ loaded.toned.ruby. Parciwch ar lan y môr ar Ffordd Colwyn (ger gorsaf y bad achub) a cherdded i'r fynedfa.

Dyddiad

Time
10:00am - 12:30pm
A static map of Crwydro Rhiwledyn

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dewch ar daith gylch 1.5 milltir o Warchodfa Natur Rhiwledyn i Borth Dyniewaid (Bae Angel), lle byddwch yn dod ar draws clogwyni calchfaen dramatig, blodau gwyllt cudd, a suo pryfed prysur. Gwrandewch am y brain coesgoch yn galw uwchben a gweld glöynnod byw lliwgar yn hedfan yng nghanol y glaswellt.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Mae'r daith gerdded yn cynnwys tir anwastad, creigiog gyda rhai rhannau i fyny ac i lawr y bryn. Mae'n fwy addas ar gyfer cerddwyr ar lefel ganolraddol. 

Nodyn: does dim toiledau ar hyd y llwybr.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad awyr agored ac esgidiau addas.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Parciwch ar lan y môr ar Ffordd Colwyn (ger gorsaf y bad achub) a cherdded i'r fynedfa. Parcio cyfyngedig yn y warchodfa, felly caniatewch amser ar gyfer cerdded rhwng y ddau safle.

Cysylltwch â ni