
Jules Cooper © Megan Jones NWWT
Blodau gwyllt a bwydydd gwyllt gyda Jules Cooper
Lleoliad:
Cors Bodeilio, Llanddyfnan, Talwrn, Anglesey, LL75 7DR
Cyfle i ddarganfod planhigion bwytadwy, dysgu am lên gwerin a mwynhau byrbrydau gwyllt gyda'r chwilotwr lleol Jules Cooper ar y gors hardd yma ar Ynys Môn.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â'r chwilotwr lleol Jules Cooper ar daith gerdded haf hamddenol yn archwilio planhigion gwyllt bwytadwy a meddyginiaethol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio ar Ynys Môn. Wrth i ni gerdded, bydd Jules yn rhannu llên gwerin, hanes a defnyddiau'r planhigion rydyn ni'n dod ar eu traws, a chewch gyfle i flasu rhai byrbrydau bwyd gwyllt blasus y mae hi wedi'u paratoi.
Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn dilyn llwybr pren gwastad drwy'r warchodfa gwlybdir drawiadol yma, gyda rhywfaint o dir mwdlyd ac anwastad tua diwedd y daith gerdded.
Digwyddiad gan brosiect Corsydd Calon Môn.
Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.
Bwcio
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Cysylltwch â ni
Rhif Cyswllt: 07983945661
Cysylltu e-bost: megan.jones@northwaleswildlifetrust.org.uk