
Discover Wildflower Walk Cors Goch © Anna Williams NWWT

©Guy Edwardes/2020VISION
Darganfod blodau gwyllt yng Nghors Goch
Gwarchodfa Natur Cors Goch,
Llanbedrgoch , Ynys Môn, LL78 8JZManylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae’r ddaeareg gymhleth a’r cyfoeth o gynefinoedd yn Cors Goch ei gwneud yn un o warchodfeydd natur mwyaf amrywiol a lliwgar Cymru: rhan o rwydwaith o arwyddocâd rhyngwladol o gorsydd ar Ynys Môn. Byddwn yn archwilio ar gyflymder hamddenol, gan chwilio am fywyd gwyllt a mwynhau golygfeydd y gwanwyn.
Does dim angen unrhyw brofiad. Dewch â sbienddrych os oes gennych chi un ac mae croeso i chi ddod â chinio hefo chi. Byddwn yn stopio mewn dôl am bicnic ar ddiwedd y daith gerdded. Gwisgwch esgidiau cadarn oherwydd mae’r llwybr pren yn gallu bod yn wlyb ac mae rhai ardaloedd yn fwdlyd.
Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg os dymunwch.