
Narrow-headed ants ©John Walters
The Herds gweithdy creu pypedau (Sesiwn prynhawn)
Ynglŷn â'r digwyddiad
Rhwng Ebrill ac Awst 2025, bydd buchesi cynyddol o anifeiliaid pyped maint bywyd yn ymdrin â dinasoedd ledled Affrica ac Ewrop i ffoi rhag trychineb hinsawdd mewn gwaith celf cyhoeddus ar raddfa na geisiwyd erioed o'r blaen. Bydd miliynau o bobl yn dilyn THE HERDS ar-lein a trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a pherfformiadau arbennig yn bersonol ar hyd y llwybr 20,000km, o ganol y Congo i Gylch yr Arctig.
Rydym yn falch o gyhoeddi y bod Storiel, Amgueddfa Gwynedd mewn partneriaeth gyda Cyngor Dinas Bangor, M Sparc , Y Pethau Bychain , EECO ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cyd gweithio i ddarparu gweithgareddau am ddim ar ddydd Mawrth Mai y 27ain i baratoi ar gyfer THE Herds yn cyrraedd y Deyrnas Unedig ddiwedd mis Mehefin.
I cydfynd hefo'r digwyddiad yma bydd cyfle i greu pyped morgrugyn gyda technegwyr M Sparc ar artist Elin Alaw yn pabell dathliadau Dinas Bangor ar lawnt Storiel.
Cymerwch ran mewn helfa rhywogaethau ymledol gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Beth am ymweld â'n harddangosfa newydd ni, Tu Hwnt i'r Ffin: Dianc o Erddi, yn Storiel tra byddwch chi yma? Cyfle i ddysgu mwy am sut mae newid hinsawdd yn bygwth byd natur.
Mae THE HERDS yn brosiect uchelgeisiol syn plethu celf cyhoeddus a gweithredu hinsawdd ar raddfa ddigynsail ai gyflwyno mewn ffordd unigryw.
Sylwer: Mae'r digwyddiad yma’n addas i bob oed. Mae gwneud pypedau’n fwyaf addas ar gyfer plant 8+ oed, ond mae croeso i blant iau roi cynnig arni gyda goruchwyliaeth rhiant.