
Paul Harris/2020VISION
Y Cyfrif Adar Mawr 2025
Boed hynny ar eich pen eich hun, gyda’ch teulu, ffrindiau neu gyd-adarwyr, ymunwch a helpwch ni i gofnodi cymaint o wahanol rywogaethau o adar ag y gallwch chi yn unrhyw un o’n gwarchodfeydd natur ni mewn 24 awr.
Ynglŷn â'r digwyddiad
Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad yn 2024 lle cofnodwyd bron i 100 o rywogaethau, rydyn ni’n eich gwahodd chi i’n helpu ni i weld a chofnodi cymaint o rywogaethau o adar ag y gallwch chi mewn 24 awr ar draws unrhyw un o’r 36 o warchodfeydd natur y mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gofalu amdanyn nhw.
Mae’r Cyfrif Adar Mawr yn gyfle gwych i bobl o bob oed, o ddechreuwyr i arbenigwyr, godi allan i’r awyr agored ac archwilio’r bywyd adar cyfoethog sydd i’w gael ar draws Gogledd Cymru. O weilch y pysgod yng Nghors Maen Llwyd i las y dorlan yn Spinnies Aberogwen neu regen y dŵr yng Ngwarchodfa Natur Big Pool Wood, mae pob cofnod yn ein helpu ni i ddeall sut mae adar yn gwneud ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.
I gymryd rhan yn y Cyfrif Adar, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw:
- Cofrestru eich diddordeb ar y ddolen isod.
- Creu tîm a dewis enw (gall timau fod mor fawr neu fach ag y dymunwch chi, o 1 person i 11, does dim ots, yr unig reol yw na allwch chi wahanu a mynd i warchodfeydd gwahanol, rhaid i chi aros gyda’ch gilydd).
- Mynd i gymaint o warchodfeydd natur ag y dymunwch chi mewn 24 awr a chofnodi’r hyn rydych chi’n ei weld.
- Dim twyllo!
Does dim ots os ydych chi’n arbenigwr neu’n ddechreuwr, neu os ydych chi eisiau treulio awr neu’r 24 awr yn llawn yn cofnodi adar gwahanol, mae hon yn ffordd wych o helpu bywyd gwyllt lleol ac ymweld â gwarchodfeydd natur hyfryd.
Bydd gwobrau am y nifer mwyaf o rywogaethau sy'n cael eu cyfrif drwy gydol y dydd, y nifer mwyaf o rywogaethau mewn un warchodfa, y nifer mwyaf o warchodfeydd rydych chi’n ymweld â nhw a’r enw mwyaf creadigol ar dîm.
Cymryd rhan sy’n bwysig, gan fod pob rhywogaeth sy’n cael ei chofnodi’n helpu i ddarparu data gwerthfawr i ni a bydd hefyd yn cael ei ychwanegu at Cofnod - Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol Gogledd Cymru.
Mae canlyniadau’r llynedd ar gael i’w gweld ar waelod y dudalen.
Cofrestrwch eich diddordeb a byddwn yn anfon Pecyn y Cyfrif Adar Mawr atoch chi yn nes at yr amser, heb unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan.