Wythnos Rhywogaethau Ymledol 24-30 Mai 2021

Wythnos Rhywogaethau Ymledol 24-30 Mai 2021

© NWWT

Mae’n Wythnos Rhywogaethau Ymledol! Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol a sut gall pawb helpu i atal eu lledaeniad. Rydyn ni’n gyffrous i gyflwyno ein paneli gwybodaeth newydd am fioddiogelwch a glanhau esgidiau!

Yn ein blog Achub Ein Hafonydd buom yn trafod effeithiau rhywogaethau estron ymledol (INNS) yn Nalgylch Afon Dyfrdwy, gan gyflwyno Gwirio Glanhau Sychu. Mae hwn yn arfer bioddiogelwch syml ond effeithiol i atal lledaeniad INNS. Ond arhoswch am bach... beth yw bioddiogelwch??

White-clawed crayfish

White-clawed crayfish (Austropotamobius pallipes), native to the UK, on river bed, viewed underwater. Eden Rivers Trust crayfish survey - capture and release - conservation work. England: Cumbria, Eden Valley, Great Strickland, River Leith, September - Linda Pitkin/2020VISION

Un peth sydd wedi dod i'r amlwg drwy'r pandemig yw pa mor hawdd y gellir trosglwyddo feirysau o berson i berson. Rydyn ni i gyd wedi bod yn ymarfer bioddiogelwch fel cadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo, a gwisgo masgiau wyneb fel ein bod yn gallu cadw ein gilydd yn ddiogel. Mae byd natur angen eich help chi i'w ddiogelu yn yr un ffordd.

Iawn, felly dychmygwch eich bod yn gimwch afon crafanc gwyn brodorol yn crwydro'n hapus o amgylch eich cartref ar wely’r afon.

American signal crayfish

Invasive non-native species American signal crayfish ©Trevor Renals

Yn sydyn, mae pâr o welingtyns yn glanio yn yr afon, ac yn waeth na hynny, maen nhw wedi'u llygru! Dydi’r person sy’n rhydio yn yr afon ddim wedi glanhau ei welingtyns ers y tro diwethaf iddo eu defnyddio mewn pwll gyda rhywogaeth estron ymledol, cimwch afon signal Americanaidd, sy'n digwydd bod yn cario pla cimychiaid afon hefyd. Yn sydyn, mae eich cartref yn heintus, gyda dim siawns i chi a'ch teulu oroesi!!

Mae hyn yn swnio fel hunllef a gall pla cimychiaid afon sy’n cael ei ledaenu gan gimychiaid afon estron ddifa poblogaethau brodorol cyfan o gimychiaid afon mewn ychydig wythnosau. Yn ychwanegol at gario pla, mae cimychiaid afon signal yn llawer mwy ac felly’n gryfach wrth gystadlu yn erbyn y cimychiaid afon crafanc gwyn am fwyd a chynefin, gan newid y ffordd mae’r afon yn gweithio’n ddifrifol drwy dyllu i lannau’r afon.    

Mae bioddiogelwch yn gweithio yn y cam atal, sef y ffordd fwyaf effeithiol o ddigon i reoli rhywogaethau estron ymledol yn y lle cyntaf, gan osgoi difrod a chyfraddau marwolaeth yn ein hamgylcheddau naturiol.

Gorsafoedd glanhau esgidiau ar gyfer bioddiogelwch

I’n helpu ni i gynnal arferion bioddiogelwch effeithiol yn rhwydd, fel rhan o’r prosiect ‘Lles Ein Hafon’ rydym wedi gosod gorsafoedd bioddiogelwch i lanhau esgidiau yn Park in the Past yn Hope, Parc Gwledig Dyfroedd Alyn, Parc Gwledig Tŷ Mawr, a Llwybr Clawdd Offa wrth y Boat Inn yn Erbistock.

Rhedeg eich esgidiau dros y brwsys yn ôl ac ymlaen nes bod yr holl fwd a malurion wedi'u tynnu (byddwch yn braf a pheidiwch â'i ddefnyddio i gael gwared â baw cŵn, mae'n bethau cas !!). Os oes gennych ddŵr glân (o dap neu botel) gwnewch yn siŵr eich bod yn rinsio unrhyw beth a gollir. Yna gadewch eich esgidiau ac unrhyw git arall sydd wedi dod i gysylltiad â'r dŵr yn rhywle y gallant sychu'n llwyr cyn ei ddefnyddio eto.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol yma.