Helfa mân drychfilod 30 Diwrnod Gwyllt

Helfa mân drychfilod 30 Diwrnod Gwyllt

Cinnabar moth © Vaughn Matthews

Un o'r pethau mwyaf cyffrous am 30 Diwrnod Gwyllt yw ei fod yn eich herio chi i chwilio am fyd natur ym mhob man. Drwy edrych yn fanylach ar y llefydd gwyllt o'ch cwmpas chi, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o blanhigion wrth ymyl palmant yw hynny, gallwch ddarganfod pob math o greaduriaid y gallech fod wedi cerdded heibio iddyn nhw heb sylwi arnyn nhw fel arall.

Edrychwch o dan ddail, codi boncyffion (gan eu rhoi yn ôl i lawr yn ofalus), craffu i mewn i graciau a chilfachau – pwy a ŵyr pa ryfeddodau bach ddowch chi o hyd iddyn nhw! Gall rhai o'n planhigion mwyaf cyffredin sy’n cael eu diystyru, fel mieri a danadl poethion, fod yn lle gwych i ddechrau gan fod pryfed wrth eu bodd gyda nhw. Mae'n werth edrych ar bennau llydan a fflat blodau wmbelifferau hefyd, gan eu bod yn boblogaidd iawn gyda llawer o bryfed a chwilod.

Rydyn ni wedi llunio rhestr fer o rywogaethau y gallech eu gweld ym mis Mehefin eleni i'ch ysbrydoli, ond dim ond cipolwg bach iawn o'r bywyd gwyllt sy'n aros i gael ei ddarganfod ydi hwn!

Bywyd gwyllt bob dydd

Mae’r anifeiliaid yma i’w gweld yn aml mewn parciau, gerddi ac mewn amrywiaeth o gynefinoedd cyffredin ledled y DU – ond efallai bydd rhaid i chi chwilio i ddod o hyd iddyn nhw.

Common blue butterfly (c) John Bridges

Common blue butterfly © John Bridges

Glöyn byw y glesyn cyffredin

Mae’r glöyn byw glas llachar yma i’w weld mewn pob math o lefydd glaswelltog ledled y DU, yn enwedig lle mae blodau melyn llachar pys-y-ceirw yn tyfu – hoff fwyd ei lindys. Efallai y gwelwch chi’r glesyn cyffredin mewn parciau, llennyrch mewn coed, mynwentydd ac ar ymylon ffyrdd neu gyrsiau golff, a hyd yn oed mewn gerddi mwy.

Scorpion fly ©Amy Lewis

Scorpion fly ©Amy Lewis

Pryf sgorpion

Nid yw’r pryf rhyfedd yr olwg yma’n bryf nac yn sgorpion – mae’n perthyn i drefn hynafol o bryfed o’r enw Mecoptera. Peidiwch â chael eich twyllo gan y gynffon sy’n debyg i sgorpion gan mai dim ond ar gyfer dod o hyd i gymar mae hon gan y gwryw; dydyn nhw ddim yn pigo. Mae pryfed sgorpion yn bwyta ffrwythau a hefyd pryfed marw (ac yn marw), wedi’u lladrata weithiau o weoedd pryfed cop. Maen nhw’n byw mewn gerddi, gwrychoedd ac ar hyd ymylon coetir ac i’w gweld yn aml ar ddanadl poethion a mieri. Mae tair rhywogaeth ym Mhrydain ac mae’n anodd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt. Nid ydynt i’w gweld yng Ngogledd Iwerddon.

Red admiral ©Guy Edwardes2020VISION

Red admiral ©Guy Edwardes2020VISION

Mantell goch

Mae’r glöyn byw coch a du llachar yma’n olygfa gyffredin mewn dolydd, parciau a gerddi gyda llawer o flodau. Glöyn byw mudol yw’r fantell goch sy’n teithio siwrnai hir o Ogledd Affrica a chyfandir Ewrop, ond mae rhai nawr yn treulio’r gaeaf yn y DU. Mae’r lindys wrth eu bodd yn gwledda ar ddanadl poethion.        

Common blue damselfly © Vicky Nall

Common blue damselfly © Vicky Nall

Mursen las gyffredin

Mae un o’n mursennod mwyaf cyffredin, y pryf main yma, i’w weld yn unrhyw le bron lle mae dŵr, o byllau bach iawn i lynnoedd ac afonydd. Mae sawl rhywogaeth debyg yn y DU, ond mae mursennod glas cyffredin gwryw yn hawdd eu hadnabod oddi wrth y marc crwn du, siâp madarch, ar dop yr abdomen, y tu ôl i fôn eu hadenydd. Mae’r benywod yn dywyllach yn gyffredinol gyda marciau siâp ysgall llai nodedig.

Hairy shield bug (c) Chris Lawrence

Hairy shield bug ©Chris Lawrence

Pryf tarian blewog

Mae’r pryf piwsfrown a gwyrdd yma’n cael ei enw oddi wrth y blew mân brown sy’n gorchuddio ei gorff, ond mae’n rhaid i chi edrych yn fanwl iawn i’w gweld nhw! Mae pryfed tarian blewog i’w gweld yn aml o amgylch gwrychoedd ac ymylon y coetir. Y pryfed tarian eraill i gadw llygad amdanynt yw’r pryf tarian gwyrdd a’r pryf tarian coesgoch. Ym mis Mehefin, efallai y gwelwch chi’r oedolion neu’r rhai bach, sy’n cael eu hadnabod hefyd fel nymffau.

Cinnabar moth (c) Vaughn Matthews

Cinnabar moth © Vaughn Matthews

Gwyfyn teigr y benfelen

Mae’r gwyfyn du a choch trawiadol yma i’w weld yn hedfan yn aml ar ddyddiau heulog, ond efallai eich bod yn fwy tebygol o weld ei lindys melyn a du streipiog yn gwledda ar blanhigion creulys. Mae’r gwyfynod teigr y benfelen i’w gweld yn unrhyw le lle mae creulys yn tyfu, gan gynnwys glaswelltiroedd, twyni tywod, hen chwareli a chyn safleoedd diwydiannol, hyd yn oed mewn trefi a gerddi.

Ymhellach i ffwrdd

Mae’r anifeiliaid hyn yn eithaf cyffredin ac eang o hyd, ond yn llai tebygol i’w gweld yn y rhan fwyaf o barciau a gerddi.

Small heath butterfly © Wendy Carter

Small heath butterfly © Wendy Carter

Gweirlöyn bach y waun

Ar ddyddiau heulog welwch chi’r glöyn byw brown ac oren bach yma, yn gwibio heibio ac yn clwydo’n agos at y ddaear. Fel rheol mae gweirlöyn bach y waun yn clwydo gyda’i adenydd ar gau, gan ddangos smotyn llygaid mawr du ar ochr isaf yr adain flaen i ddrysu ysglyfaethwyr. Mae’n hoffi ardaloedd glaswelltir agored a sych fel rhostiroedd, twyni tywod a hen chwareli.

Green tiger beetle ©Ross Hoddinott2020VISION

Green tiger beetle ©Ross Hoddinott2020VISION

Chwilen deigr werdd

Mae’r chwilen werdd sgleiniog yma’n ysglyfaethwr prin, sy’n sbrintio ar draws y ddaear i ddal pryfed cop, morgrug, lindys ac infertebrata eraill. Mae chwilod teigr gwyrdd yn hoffi llecynnau heulog gyda llawer o dir noeth, ac i’w gweld yn aml ar rostiroedd, twyni tywod, llethrau bryniau a hen safleoedd diwydiannol.    

Four-spotted chaser (c) Ross Hoddinott2020VISION

Four-spotted chaser ©Ross Hoddinott2020VISION

Picellwr pedwar nod

Mae’r gwas y neidr prysur yma’n hawdd ei adnabod oddi wrth y ddau farc tywyll ar ymyl ei adenydd. Mae’r picellwr pedwar nod i’w weld o amgylch ymylon llynnoedd ac afonydd bas yn aml, lle mae llawer o blanhigion tal iddo glwydo arnynt.         

Mother Shipton moth © Janet Packham

Mother Shipton moth © Janet Packham

Hen wrach

Mae’r gwyfyn trawiadol yma wedi’i enwi yn Saesneg (Mother Shipton) ar ôl proffwydes a fu farw yn 1561 – os edrychwch chi’n fanwl ar ei adenydd, gallwch weld marciau tywyll sydd i fod i edrych fel ei hwyneb, gyda thrwyn hir a gên bigog! Mae hen wrachod i’w gweld mewn llefydd glaswelltog yn llawn blodau, yn enwedig lle mae meillion a phys-y-ceirw yn tyfu. Maent yn hedfan yn ystod y dydd, gan wibio o flodyn i flodyn. Nid ydynt mor gyffredin â rhai rhywogaethau eraill, felly efallai y bydd arnoch chi angen dipyn o lwc i ddod o hyd i un.

 

Gadewch inni wybod beth rydych chi'n ei ddarganfod trwy ein tagio ar gyfryngau cymdeithasol!