12 Days Wild 2025 © NWWT
Her natur ganol gaeaf
12 Diwrnod Gwyllt yw ein her natur Nadoligaidd ni, sy'n eich annog chi i wneud un peth gwyllt y dydd o'r 25ain o Ragfyr tan y 5ed o Ionawr bob blwyddyn. Yn ystod y dyddiau tawel hynny rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae bywyd gwyllt y gaeaf yn aros i gael ei archwilio!
Gallai eich gweithredoedd gwyllt chi fod yn bethau bach i helpu byd natur - fel ailgylchu eich coeden Nadolig neu fwydo'r adar - neu ffyrdd o gysylltu â'r byd naturiol, fel rhoi cynnig ar syllu ar y sêr. Cofrestrwch i dderbyn pecyn digidol i'ch helpu chi i gymryd rhan.
Mae ein holl adnoddau ni ar gael y Gymgraeg neu'r Saesneg!
Eich antur yn y gaeaf gwyllt
Pan fyddwch chi'n cofrestru i gymryd rhan yn 12 Diwrnod Gwyllt, byddwch yn derbyn pecyn digidol sy'n cynnwys:
- Siart wal i gofnodi eich cynnydd
- Cymysgfa geiriau
- Chwilair
- 12 syniad gwyllt i'ch helpu chi i gynllunio
- Llawer o syniadau ychwanegol ar gyfer gweithgareddau
Byddwn hefyd yn anfon e-byst dyddiol atoch chi yn ystod yr her, yn llawn syniadau ar gyfer gweithgareddau a ffeithiau am fywyd gwyllt.
12 Days Wild 2025 Pack © The Wildlife Trusts