Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam - Busnesau

Wrexham Industrial Estate main banner

© NWWT Jonathan Hulson

Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Busnesau

*** NEWYDDION ***

Rydyn ni’n ymuno â’r ymdrech i helpu busnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig drwy gynnig ardaloedd picnic gyda phellter cymdeithasol ar y stad.

Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut gallwn ni helpu i gadw eich staff yn ddiogel yn ystod y pandemig drwy ddefnyddio ein tir ni. Rydyn ni’n defnyddio byrddau picnic plastig wedi’i ailgylchu sy’n para am genhedlaeth ac y mae posib eu gosod allan er mwyn cadw staff ar wahân yn yr awyr iach yn ystod eu hamser cinio ac egwyliau.”  

Plastic picnic tables (c) British Recycled Plastic

'Bioamrywiaeth yn creu Busnes' – Beth mae hyn yn ei olygu?

Bydd dod â’r economi, cymdeithas a’r amgylchedd at ei gilydd yn sicrhau budd i fusnesau. Gall y dull yma o weithio gynyddu llinell waelodol cwmnïau a gweithio tuag at ddatrys dau argyfwng – yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi i gyrraedd y nodau yma drwy ymgymryd â gwelliannau ar eich tiroedd.

Cysylltwch â ni heddiw

Jonny and Village Bakery - Wrexham Industrial Estate

Village Bakery wildflowers - Wrexham Industrial Estate © NWWT

Y manteision i chi

Gall y manteision i fusnesau o gynnwys gofod gwyrdd yn eu hamgylchedd fod yn amrywiol. Dyma ddetholiad o’r manteision sy’n helpu cwmnïau i weithredu’n well, gan arwain at gostau is a chyfrannu at faterion cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach ac achrediad.

Benefits to businesses infographic - cymraeg
Natural picnic area

Natural picnic area - open licence

Y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn arbenigwyr ar greu atebion naturiol i helpu i hybu bioamrywiaeth a lles ac ymgysylltu cymdeithasol. Rydyn ni wedi ymgymryd â’r gwasanaethau canlynol ar y stad ddiwydiannol a gallwn gynnig y rhain i chi er mwyn i chi allu croesawu’r cyfleoedd unigryw sydd gan eich tir i’w cynnig.

Services we offer infographic - cymraeg
Hi-mark hedge, Wrexham Industrial Estate

© NWWT

Astudiaethau achos

Mae’r wybodaeth ganlynol yn hyrwyddo detholiad o’r busnesau sydd wedi ymuno â’r prosiect ac yn esiampl o’r math o waith y gallwn ymgymryd ag ef ar eich tiroedd:

Clwb Golff Clays

Mae Clwb Golff Clays yn dal ardal fawr o dir ar gyrion y stad sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt diolch i reolwyr y cwrs golff. Maen nhw wedi gweithio gyda ni er mwyn gwella hyn ymhellach drwy osod bocs i dylluanod gwynion yn ei le a hefyd plannu rhimyn o goetir ar hyd ymyl eu tir, i weithredu fel ffin naturiol a choridor.

Clay Golf Club, Wrexham Industrial Estate

© NWWT

Commercial and Industrial Gauges

Mae Commercial and Industrial Gauges, y cwmni gweithgynhyrchu a chyflenwi oddi ar Abenbury Way, yn gweithio gyda ni i wella eu tir er mwyn i gwsmeriaid sy’n ymweld allu ei fwynhau, a bydd byd natur yn elwa fel rhan o’r broses. Rydyn ni wedi adfer dôl draddodiadol o flodau gwyllt sy’n llawn llygad-llo mawr trawiadol yn ystod yr haf. Mae man eistedd newydd wedi cael ei gynllunio a’i greu allan o galchfaen a phlastig wedi’i ailgylchu a fydd yn ardal neis ar gyfer bwyta cinio yn yr haul a hefyd yn llesol i löynnod byw.

CIG LTD, Wrexham Industrial Estate

© NWWT

PIcnic Area and wildflower meadow at CIG LTD, Wrexham Industrial Estate

PIcnic Area and wildflower meadow at CIG LTD, Wrexham Industrial Estate

Ecodek

Mae Ecodek, cynhyrchydd decin plastig wedi’i ailgylchu sy’n amgylcheddol gyfeillgar, wedi cytuno i hadu ymyl o flodau gwyllt yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn gwella ymddangosiad y safle i weithwyr a chwsmeriaid fel ei gilydd. Mae’r darnau yma o flodau gwyllt amlwg yn ffynhonnell wych o neithdar i bryfed - byddai’r glaswellt yn cael ei dorri fel arfer heb lawer o flodau gwyllt. Mae ymylon o flodau gwyllt yn amlwg iawn ar y stad a dyma’r gwaith mwyaf poblogaidd rydyn ni’n ei wneud yma.

Ecodek

© NWWT

Hauck Fun for Kids (Aelod corfforaethol)

Mae gan Hauck, cynhyrchydd seddau ceir a chadeiriau gwthio i blant, safle pwysig ac rydyn ni’n gweithio ar y lleoliad yma i helpu glöyn byw y gwibiwr brith. Drwy gydweithredu, rydyn ni wedi gwella’r ardal ar gyfer y glöyn byw a hefyd gwarchod tegeirianau’r wenynen, ac fe fyddwn ni hefyd yn gosod bocsys yn eu lle i wenoliaid duon er mwyn helpu i atal dirywiad y rhywogaeth yma o aderyn. Yr ymyl newydd o flodau gwyllt yw’r datblygiad diweddaraf a fydd yn dod â lliw i’r ardal a phlanhigion peillio i bryfed.

Hauck Fun for Kids LTD

© Google

Hoya Lens UK

Mae Hoya, sy’n darparu profiadau teilwredig ar gyfer Gweithwyr Gofal Llygaid Proffesiynol a phobl sy’n gwisgo sbectol, wedi gweithio gyda ni i greu gwarchodfa natur ar eu tir, sy’n hygyrch i bobl drwy ychwanegu llwybrau i ardal wyllt a chreu cynefinoedd newydd ar hen gae pêl droed. Mae’r cynlluniau sydd ar droed yn yr ardal newydd yn cynnwys perllan, ardaloedd picnic, coetir a dôl o flodau gwyllt, a fydd yn llawn bywyd gwyllt a lliw i bobl ymlacio ynddynt.                   

Hoya Lens UK, Wrexham Industrial Estate

© NWWT

Proserve

Mae Proserve, sy’n cyflenwi gwasanaethau amlddisgyblaethol a logisteg i gwmnïau, wedi gweithio gyda ni i reoli safle lliniaru ar gyfer byd natur yn dilyn estyniad i’w huned. Gyda’n gilydd rydyn ni’n gwella dôl o flodau gwyllt ac wedi plannu coed ar hyd y ffin, sy’n helpu i gysylltu coetir hynafol Erlas Black Wood ag ardaloedd eraill ar y stad. Gall y datblygiadau weithio ochr yn ochr â chadwraeth natur wrth i ni gydweithredu i sicrhau budd i bawb.

Proserve, Wrexham Industrial Estate

© Google

Rowan Foods (Aelod corfforaethol)

Mae Rowan Foods, cynhyrchydd mawr ar fwyd wedi’i baratoi gyda label y manwerthwr, wedi cydweithio gyda ni i wneud gwelliannau amrywiol er budd y gweithwyr a bywyd gwyllt. Gyda’n gilydd rydyn ni wedi creu ardal bicnic, gosod bocs tylluanod gwynion yn ei le, plannu cennin Pedr ac, yn gyffrous iawn, wrth symud ymlaen byddwn yn parhau i reoli eu tir yn y dyfodol. Mae’r ardal yma’n gartref i blanhigion prin, gan gynnwys tegeirianau’r wenynen, a fydd yn cael eu hannog gyda rheolaeth ofalus.

Rowan Foods orchard

Village Bakery

Mae Village Bakery, cynhyrchydd lleol enwog ar fara a chrwst, wrth galon y stad ddiwydiannol ac mae’n gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Natur i helpu i achub bywyd gwyllt fel rhan o nifer o brosiectau. Rydyn ni’n rheoli Erlas Black Wood: ei hagor ar gyfer y cyhoedd a grwpiau ysgolion, i ymweld a rhyfeddu at y coed hynafol a’r planhigion coetir mawreddog. Rydyn ni hefyd yn cydweithio i reoli ardal lliniaru datblygiadau a chreu ymylon trawiadol o flodau gwyllt o flaen y ffatri bob blwyddyn.

Village Bakery wildflower meadow
The bottom half of the picture is taken up with a carpet of wood anemones, small white flowers with pointed leaves resembling stars, with lush green leaves covering the ground. The top half features the woodland in the background, out of focus, with flares of light as it passes through the leaves on the trees giving them an almost glowing appearance.

Erlas Black Wood - Wrexham Industrial Estate (c) NWWT

Clwb Golff Wrecsam

Mae Clwb Golff Wrecsam, ger y fynedfa i’r stad, yn awyddus i weld byd natur yn ffynnu ar ei safle ac rydyn ni wedi gosod dau focs i dylluanod gwynion yn eu lle ar ei gyfer. Mae’r tylluanod yn hela uwch ben y glaswelltir garw ar hyd ymyl y cwrs, sy’n gartref i lygod pengrwn y gallant eu bwyta a’u bwydo i’w cywion. Hefyd mae gan y cwrs golff lawer o goed sy’n chwarae rhan bwysig mewn amsugno carbon er mwyn helpu i drechu newid hinsawdd.

Wrexham Golf Club, Wrexham Industrial Estate

© Wrexham Golf Club

Business awards poster1

© NWWT

Gwobrau Busnes

Rydyn ni’n cyhoeddi’r gwobrau 'Bioamrywiaeth yn creu Busnes', sy’n cael eu cyflwyno yn gynnar yn 2021 i fusnesau sydd wedi ymuno â’r prosiect Tirwedd Fyw!
Henry Cook
Swyddog Prosiect Tirwedd Fyw
A small slope, with trees growing higher up on it, lots of green leaves and a pale blue sky just visible through the woodland. At the bottom of the hill in a more shaded area are hundreds of bluebells, small delicate flowers, with dark blue bell shaped flowerheads, that droop at the top of the stem, that carpet the woodland floor.

Coed y Felin bluebells © NWWT Jonathan Hulson

Cefnogaeth gorfforaethol

Ar gyfer busnesau sy’n dymuno cefnogi gwelliannau amgylcheddol mewn ffyrdd amgen wrth reoli eu tir, rydyn ni’n cynnig ‘Partneriaethau Naturiol'. Mae’r gefnogaeth gorfforaethol yma i’r Ymddiriedolaeth yn galluogi i ni ymgymryd â’n gwaith ym mhob cwr o Ogledd Cymru mewn gwarchodfeydd natur ac yn y dirwedd ehangach a’r moroedd. Mae llawer o fanteision i’w cael o gefnogi’r Ymddiriedolaeth fel hyn a gall eich helpu chi i gyrraedd eich nodau amgylcheddol.

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni heddiw i gymryd rhan

Henry Cook, Swyddog Prosiect Tirwedd Fyw

henry.cook@northwaleswildlifetrust.org.uk

07940008799

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru,
Aberduna,
Maeshafn,
Mold,
Debighshire,
CH7 5LD.