Seren glustog

Cushion star

Cushion star ©Matt Slater

Seren glustog

Enw gwyddonol: Asterina gibbosa
Mae’n hawdd gweld o ble mae’r seren fôr fechan yma wedi cael ei henw, mae wir yn edrych fel clustog bychan siâp seren. Y tro nesaf rydych chi’n archwilio pyllau creigiog, cadwch lygad o dan y creigiau am y rhywogaeth fechan hardd yma.

Species information

Ystadegau

Diametr: 5 cm
Yn byw am: 7 mlynedd

Statws cadwraethol

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ionawr - December

Ynghylch

Seren fôr fechan, drwchus gyda phum braich fer. Mae’r seren glustog i’w gweld ar hyd arfordir gorllewin a de’r DU. Am gyfle i weld y sêr môr hyfryd yma, edrychwch o dan greigiau neu mewn cilfachau mewn pyllau creigiog. Maen nhw’n hoffi byw mewn pyllau creigiog ond hefyd yn hoffi deifio’n ddwfn at wely’r môr yn achlysurol! Maen nhw’n bwydo yn ystod y nos ond nid ydyn nhw’n ffyslyd a byddant yn bwyta beth bynnag sydd ar gael. Echinodermiaid yw sêr clustog, sy’n golygu ‘croen pigog’, ac mae’n hawdd gweld pam, gan fod eu corff wedi’i orchuddio gan bigau oren byrion.

Sut i'w hadnabod

Seren fôr fechan sy’n tyfu hyd at 5 cm, gyda phum (pedair neu chwech yn anaml iawn) braich fer iawn a llydan. Mae’n edrych yn chwyddedig, fel clustog. Mae arwyneb y cefn yn arw gyda phigau’n ei warchod. Mae’r arwyneb fentrol yn fflat, gyda’r geg yn y canol. Mae gan bob un o blatiau’r geg ddau bigyn. Mae ei lliw yn amrywio ond, gan amlaf, mae’n oren golau, brown, gwyrdd neu hufen.

Dosbarthiad

Cyffredin ar arfordiroedd Prydain ond yn brin yn y gogledd-ddwyrain a heb ei chofnodi o Sir Lincoln i ardal Hampshire.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae pob seren glustog yn cael ei geni’n wryw, ac mae’n "ddeurywiad protandraidd", sy’n golygu mai gwrywod yw’r unigolion bach neu ifanc ond pan maen nhw’n tyfu’n fwy na maint penodol, maen nhw’n datblygu’n fenywod er mwyn magu.

Sut y gall bobl helpu

When rockpooling, be careful to leave everything as you found it - replace any seaweed you move out of the way, put back any crabs or fish and ensure not to scrape anything off its rocky home. If you want to learn more about our rockpool life, Wildlife Trusts around the UK run rockpool safaris and offer Shoresearch training - teaching you to survey your local rocky shore. The data collected is then used to protect our coasts and seas through better management or through the designation of Marine Protected Areas.