Ysgolion ac Addysg

School group with Anna

Anna Williams

BETH RYDYM YN EI WNEUD

Ysgolion ac Addysg

Archwilio a darganfod, tyfu’n iach, creu cartref neu grwydro gwyllt!

Ewch ati i danio chwilfrydedd a defnyddio’r awyr agored fel cae chwarae i ddysgu. Mae ein gwaith ni gydag ysgolion yn amrywiol iawn ... o ddwylo budr i gynefinoedd iach!

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n ysgol neu’n grŵp ieuenctid, fe fyddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Fe allwn weithio gyda chi drwy ymweld a’r ysgol, darparu cyngor a gwybodaeth, creu gardd bywyd gwyllt neu dripiau i un o’n 36 gwarchodfeydd natur.

Ydi hyn am ddim? Ydi, weithiau, ond mae’n dibynnu. Os nad ydyn ni’n gallu cynnig ein gwasanaeth i chi o fewn cyllid un o’n prosiectau presennol, gallwn eich cyfeirio at y grantiau diweddaraf neu drwy sicrhau noddiad gan un o’n partneriaid naturiol (corfforaethol) – Haws debyg ichi gysylltu a ni!

Prosiectau mewn ysgolion ac ymweliadau â nhw

Archwilio a darganfod rhyfeddodau byd natur heb adael yr ysgol!

Gydag amrywiaeth eang o weithdai a gweithgareddau, bydd ein tîm cymunedol ac addysg profiadol ac ysbrydoledig yn gwella’r dysgu drwy brofiad uniongyrchol, ymarferol, gan ddefnyddio beth bynnag sydd gennych chi ar dir eich ysgol a’i gysylltu â’r cwricwlwm.

Tyfu’n iâch, creu cartref neu grwydro gwyllt: Eisiau gwella eich ysgol ar gyfer iechyd a lles disgyblion? bywyd gwyllt? addysg awyr agored? Cymerwch ran yn ein prosiect garddio bywyd gwyllt.

Dysgu rhywun i bysgota! Wrth gwrs fe allwn gynnal sesiynau ar gyfer eich disgyblion! Ond a fyddai’n well gennych feithirin y sgiliau o fewn eich tim dysgu? Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer athrawon ar:

  • Sut i greu cynefinoedd lle mae bywyd gwyllt a phlant yn ffynnu ochr wrth ochr –  a wedyn manteisio ar rhain ar gyfer addysgu!
  • Garddio i dyfu ffrwythau a llysiau: sefydlu a gweithredu gerddi cegin organig llwyddiannus.               
  • ‘Chwarae naturiol’ i wella cymhelliant plant, eu gallu i ganolbwyntio, a’u sgiliau iaith, cyfathrebu a chorfforol.
  • Dysgu awyr agored drwy Wyddoniaeth y Dinesydd: cyfle i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth go iawn a’i defnyddio fel adnodd i gynyddu cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored!

Cynllunio, creu ac adeiladu! Gallwn gynllunio gofod gwych i bobl a bywyd gwyllt ar dir eich ysgol. O ymgynghori â disgyblion, staff a chymunedau i helpu penseiri i sicrhau statws BREEAM ar adeiladau newydd ysgolion, mae gennym brofiad ymarferol ac rydyn ni’n gwybod beth sy’n gweithio.

Yn ein gwarchodfeydd natur

Archwilio a darganfod rhyfeddodau byd natur lle mae’n ffynnu!

Gydag amrywiaeth eang o weithdai a gweithgareddau, bydd ein tîm addysg profiadol ac ysbrydoledig yn gwella’r dysgu drwy brofiadau ymarferol fel trochi pwll, hela pryfed ac archwilio pyllau creigiog yn y warchodfa natur agosaf at eich ysgol chi.

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy

Wildlife Watch and Gwyllt! magazines

Wildlife Watch and Gwyllt! magazines

Adnoddau am ddim ar gyfer ysgolion

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi gofrestru ar gyfer e-byst bob chwarter gyda gweithgareddau a allai leddfu’r straen ar gynllunio gwersi yn eich ysgol - am ddim? A chylchgronau ysbrydoledig ar thema bywyd gwyllt ar gyfer deunydd darllen gwyddoniaeth yn yr ystafell ddosbarth neu Glwb Eco eich ysgol - am ddim?

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â’n swyddogion cymunedol ac addysg

Iwan Edwards (Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych)
iwan.edwards@northwaleswildlifetrust.org.uk

Anna Williams (Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy)
anna.williams@northwaleswildlifetrust.org.uk
01248 351 541

Chwilio am warchodfa natur yn agos at eich ysgol chi