Ein pobl ni

North Wales Wildlife Trust employs over 30 staff

North Wales Wildlife Trust employs over 30 staff

AMDANOM NI

Ein pobl ni

Dod â’r gwyllt yn ôl yn fyw. Gyda’n gilydd.

Rydyn ni’n fudiad ar lawr gwlad o bobl sy’n cydweithio er lles bywyd gwyllt.

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn y DU yn gwella llefydd ar gyfer bywyd gwyllt ac yn dylanwadu ar lywodraethau i ddiogelu dyfodol bywyd gwyllt. Ein haelodau ni yw asgwrn cefn y mudiad – gyda’ch cefnogaeth chi rydyn ni’n gallu cyfeirio cyllid i fynd i’r afael â’r heriau mae bywyd gwyllt yn eu hwynebu.

Ymunwch heddiw

Ein gwirfoddolwyr ni

Ymunwch â rhwydwaith o fwy na 350 o bobl debyg i helpu i warchod bywyd gwyllt a chefn gwlad Gogledd Cymru.

Gwirfoddoli gyda ni

Ein grwpiau lleol ni

Ble bynnag rydych chi’n byw yng Ngogledd Cymru, mae cangen leol o’r Ymddiriedolaeth Natur yn agos atoch chi.

Mae’r rhain yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr sy’n helpu i godi proffil yr Ymddiriedolaeth Natur yn eu cymunedau lleol. Maent yn trefnu llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar thema bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys teithiau tywys, dyddiau hwyl i’r teulu a sgyrsiau gan arbenigwyr lleol. Beth am fynd i un o’u cyfarfodydd a chymryd mwy o ran? Byddwch yn cysylltu â phobl leol sy’n rhannu diddordeb cyffredin mewn bywyd gwyllt. Os ydych chi’n arweinydd cerdded, yn paentio wynebau neu’n pobi cacennau, fe allwch chi fod yn ddelfrydol ar gyfer eich Cangen leol. 

Gwirfoddoli gyda’ch grŵp lleol

Ein staff ni

Mae ein staff yn gweithio yn ein prif swyddfa ym Mangor a’n swyddfa ar Warchodfa Natur Aberduna ger Y Wyddgrug. Mae staff ein gwarchodfeydd natur yn wybodus am fywyd gwyllt eu hardaloedd lleol ac mae ein staff addysg ac ymgysylltu â’r gymuned yn awyddus i rannu eu brwdfrydedd heintus dros fywyd gwyllt lleol. Mae ein staff cefnogi, sy’n gweithio ym Mangor, yn fwy na pharod i helpu gydag aelodaeth, cyllid, codi arian, cyfathrebu ac ymholiadau cyffredinol.

Cysylltu â ni

Sut rydyn ni'n cael ein rhedeg

Mae ein Hymddiriedolwyr yn grŵp o wirfoddolwyr sydd â chyfrifoldeb ariannol a chyfreithiol am bopeth mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud.

Mae ein Hymddiriedolwyr yn cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth, arbenigedd a phrofiad i’r elusen ac yn gyfrifol am gymeradwyo ein cynlluniau strategol, ein cyllideb flynyddol a’n Hadroddiad a’n Cyfrifon Blynyddol.

Penodir Ymddiriedolwyr o’n sylfaen o aelodaeth yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Ymddiriedolaeth bob mis Tachwedd.

Ein cenhadaeth ni

Dafydd Elis-Thomas (Llywydd)

Cynrychiolwyd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas Sir Feirionnydd ac yn ddiweddarach etholaeth Nant Conwy ac yn ddiweddarach fyth etholaeth Dwyfor Meirionnydd fel Aelod Seneddol (AS) ac yna Aelod y Senedd (AS) yn cynnwys aelod o bwyllgorau deddfwriaethol ac archwiliad yn arbenigo yn yr amgylchedd, addysg a pholisi chyfansoddiadol.  Fe oedd yn gadeirydd o fwrdd statudol cyntaf Y Bwrdd Iaith Gymraeg ac hefyd yn Swyddog Lywyddol y Senedd cyn iddo ymuno â Lywodraeth Cymru fel Gweinidog tros Ddiwylliant, Chwaraeon ac Thwristiaeth.  Yng ngraddedig, yn ôl-raddedig ac yn ddarlithydd ym Mangor fe wasanaethodd fel Llywydd a Changhellor o’r Brifysgol.  Fel Cadeirydd Sgrîn Cymru fe oedd hefyd yn gwasanaethu fel aelod o ffwrdd y British Film Institute.  Yn 1992 cafwyd ei urddo yn Arglwydd am Oes.  Mae o wedi byw erioed yn ac o gwmpas ardal Eryri.  

Geoff Radford (Is-lywydd)

Ymunodd Geoff â'r Ymddiriedolaeth am y tro cyntaf yn y 1970au, a phan ymddeolodd o'r Sefydliad Ecoleg Daearol yn 1997, cododd ei gyfraniadau gwirfoddol i'r Ymddiriedolaeth i lefel uwch.  Mae ei ddylanwad wedi bod yn ganolog i ddatblygiad yr Ymddiriedolaeth, a dyfodd o'i gyfraniad gweithredol cychwynnol yng Nghangen Ynys Môn yr Ymddiriedolaeth, yna drwy bwyllgorau cynghori (Cadwraeth, Cyllid, Eiddo ac Ystadau) ac i Gyngor yr Ymddiriedolaeth. Bu'n gwasanaethu fel Is-Gadeirydd yn 2005, ac yna'n gyflym drwy gael ei ethol fel Cadeirydd lle bu'n gwneud y swydd tan 2010.  Fel Cadeirydd, roedd yn uchel ei barch ac yn ganolog yng ngwaith cydweithredol a strategol yr Ymddiriedolaeth, drwy sefydliad UK Wildlife Trust ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru.  Bu Geoff yn Gadeirydd Cangen Ynys Môn am dros 20 mlynedd, a hyd heddiw mae’n dal i gefnogi proses adrodd staff i gyllidwyr, a'n mapio digidol.  Mae'n wirfoddolwr gwarchodfa natur ymarferol weithredol a bydd yn cael ei weld y rhan fwyaf o wythnosau yn gweithio i warchod glaswelltir blodau gwyllt drwy glirio prysgwydd a rhedyn, plannu coed, a glanhau traethau. 

Goronwy Wynne (Is-lywydd)

Wedi’i eni a’i fagu yn Sir y Fflint, graddiodd Goronwy o Brifysgol Bangor mewn Amaethyddiaeth a Botaneg, addysgodd Fioleg yn ei hen ysgol yn Nhreffynnon ac wedyn daeth yn Brif Ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru, Wrecsam. Mae'n Gymrawd o Brifysgol Bangor ac o Gymdeithas Linnean Llundain; a bu'n gofnodwr Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain ar ran Sir y Fflint am 40 mlynedd. Dyma lle mae wedi cyfrannu mor llawn at waith YNGC. Yn 1993 cyhoeddodd ei waith mawr Flora of Flintshire a dyfarnwyd PhD iddo amdano. Mae ei ddiddordeb mewn hanes natur ac ecoleg yn parhau mor frwd ag erioed.

Pippa Bonner (Is-lywydd)

Yn ogystal â chynnal diddordeb brwd mewn bywyd gwyllt, bu Pippa yn godwr arian selog i YNGC am 20 mlynedd tan 2015. Yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd ei harweinyddiaeth, roedd yr Ymddiriedolaeth yn un o'r ychydig elusennau amgylcheddol oedd yn gweithredu canolfannau gwerthu pwrpasol yn seiliedig ar ymdrech wirfoddol yn unig, ac ni sicrhaodd yr un ohonynt gyfran mor uchel o'i hincwm anghyfyngedig o is-gwmni masnachu. Yn ystod ei chyfnod yn gweithredu gyda ni, cododd Pippa a'r tîm gwerthu fwy na £250,000 i'r Ymddiriedolaeth.

Roedd cymeriad di-flewyn-ar-dafod a chefnogol Pippa gydag ymrwymiad i’r tasgau a gyflawnodd yn rhoi safon a lefel gwasanaeth o’r radd flaenaf. Bu’n Ymddiriedolwr am 7 mlynedd, o 1995 yn Gyfarwyddwr Masnachu YNGC am 20 mlynedd, a bu hefyd yn aelod hirsefydlog o Bwyllgor Cangen Ynys Môn yr Ymddiriedolaeth. Oherwydd ei chyfraniad eithriadol at wasanaethau gwirfoddol cafodd ei gwobrwyo ag anrhydedd genedlaethol fel Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn 2012.

Mae Pippa yn parhau fel cefnogwr yr Ymddiriedolaeth er ei bod bellach yn byw yn agos at ei theulu yn Swydd Gaerloyw. 

Howard Davies (Cadeirydd ac Ymddiriedolwr)

Rwy'n teimlo'n angerddol dros yr amgylchedd ac rwyf wedi hyrwyddo Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) ers dros ddeng mlynedd ar hugain.  Mae gennyf brofiad o lywodraethu yn sgil rolau mewn rheoli elusennau ac fel aelod o fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).  Rwy'n gadeirydd profiadol, yn Ysgrifennydd Cwmni, ac yn gyfryngwr a hyfforddwr achrededig.  Rwyf wedi bod yn Brif Weithredwr elusen amgylcheddol ers deng mlynedd.  Mae gennyf radd mewn bioleg, diddordeb angerddol mewn pobl a lle, a hyrwyddo cydweithio.   Rwy'n aelod o Gomisiwn y Byd yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar Ardaloedd Gwarchodedig, yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a'r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer y celfyddydau, gweithgynhyrchu a masnach (RSA), ac yn Is-lywydd Anrhydeddus YNGC.

Ian Dunsire (Trysorydd ac Ymddiriedolwr) 

Cyn gynted ag y symudais i i Ogledd Cymru o Ynys Wyth, fe wnes i ymateb i gais am help yn Natur. Rydw i’n defnyddio fy nghefndir busnes mewn bancio, TG ac fel gweithredwr interim yn rhoi sylw i uno, caffael a thrawsnewid i gefnogi’r Ymddiriedolaeth. Gyda fy ngwraig Barbara, rydym wedi neidio i mewn i’r pen dwfn gyda phrosiect i droi ein tyddyn 9 erw uwch ben Penrhyndeudraeth yn wyllt unwaith eto, gyda chyngor da gan yr Ymddiriedolaeth. Wedi ychydig dros ddwy flynedd yn ei adfer, mae’r dolydd, y coedlannau a’r pyllau’n denu amrywiaeth nodedig o fywyd gwyllt ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y duedd yn parhau.

 

Daniel Bos (Ymddiriedolwr)

Daniel Bos, Trustee

Daniel Bos, Trustee

Fel daearyddwr academaidd, mae gen i dros ddegawd o brofiad addysgu ac ymchwil yn archwilio'r rhyng-gysylltiadau rhwng tirweddau, pobl, ac amgylcheddau naturiol. Mae fy ymchwil, fy addysgu a fy niddordebau personol yn ceisio grymuso pobl i hyrwyddo cyfiawnder amgylcheddol. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn materion yn ymwneud â hygyrchedd a chynhwysiant i fyd natur a’r rôl y gall technolegau digidol ei chwarae wrth gysylltu’r cyhoedd â materion amgylcheddol.

Gillian Coates (Ymddiriedolwr)

Mae gen i ddiddordeb oes mewn byd natur a’r amgylchedd, gydag amrywiaeth eang o brofiadau sy’n cael eu defnyddio gennyf i gefnogi’r Ymddiriedolaeth. Mae gen i brofiad academaidd yn y byd fferyllol a bioleg mamaliaid a threuliais fy ngyrfa yn bennaf fel cynghorydd gyda Chyngor Ar Bopeth. Gyda fy niweddar ŵr, academig yn arbenigo mewn acwsteg danddwr, bûm yn cynnal hyfforddiant i bobl (yn gweithio mewn maes milwrol, olew a nwy a’r amgylchedd) mewn acwsteg danddwr ac effaith sŵn diwydiannol ar amgylchedd y môr. Rwyf yn awyddus iawn i sicrhau nad yw unrhyw ddatblygiadau morol sy’n digwydd oddi ar arfordir Gogledd Cymru’n niweidiol i fywyd gwyllt.

Alasdair Forman (Ymddiriedolwr)

Alasdair Forman, Trustee

Alasdair Forman, Trustee

Un o Ogledd Cymru ydwyf gyda angerdd gydol tros gadwraeth natur ac rwyf yn falch fy mod yn medru gwasanaethu fel ymddiriedolwr i YNGC.

Gyda thros 25ain o flynyddoedd o brofiad yn y meysydd corfforaethol ac elusennol, rwyf wedi datblygu sgiliau mewn sawl maes yn cynnwys cynllunio strategol, rheoli cyllid, codi arian, marchnata, monitro ac asesu, datblygu partneriaethau a rheoli prosiectau.

Fel ymddiriedolwr presennol i CPRE Caerhirfryn, Adran Dinas Lerpwl a Manceinion Fawr, gyda yr un fath o strwythur cyfreithiol a disgrifiadau rôl i’r YNGC, ac oherwydd hyn ‘rwyf yn cydnabod y cyfrifoldebau a’r disgwyliadau sydd angen.

Mae gennyf brofiad eang, yn enwedig trwy fy ngwaith gyda WWF, o fewn y meysydd cynllunio strategol ac o fewn datblygu cynlluniau effeithiol a’r drywydd cynhyrchion, canlyniadau ac effeithiau i faterion cadwraethol a gweithredol.

Frankie Hobro (Ymddiriedolwr)

Mae fy nghefndir i mewn bioddiogelwch mewndirol a monitro rhywogaethau mewn perygl a chadwraeth, ymchwil ac addysg cysylltiedig â hynny. Fe wnes i weithio’n rhyngwladol am fwy na 10 mlynedd mewn gwarchodfeydd natur ar ynysoedd ac mewn gwersylloedd maes anghysbell yn goruchwylio prosiectau fel ymgynghorydd annibynnol i Fanc y Byd. Nawr mae fy ffocws i ar gadwraeth forol fel perchennog a chyfarwyddwr Sw Môr Môn. Fel ymddiriedolwr, gallaf ddefnyddio fy mhrofiad i gefnogi’r Ymddiriedolaeth, yn enwedig gyda’i gwaith i warchod y moroedd o amgylch Gogledd Cymru, a galluogi eraill i rannu fy angerdd dros dreulio amser yn yr awyr agored, yn enwedig yn cymryd rhan mewn gweithgareddau bywyd gwyllt ymarferol fel modrwyo adar.

Alex Lord (Ymddiriedolwr)

Rwyf yn angerddol tros y byd natur a chadwraeth, gyda chefndir mewn Söoleg a gwaith cadwraethol yn Belize.  Mae fy sgiliau yn y byd cyllid ac ariannol – o waith masnachol a strategol i gydymffurfio,  trefn llywodraeth ac ymarfer gorau gyda tros saith mlynedd o brofiad Pwyllgora mewn rôl gweithredol – sydd, yr wyf yn meddwl, yn yng wneud i yn addas iawn i’r rôl yma i helpu gyrru’r elusen ymlaen tra’n parhau â’i hysbryd ac yn gweithredu fel ceidwaid i’w ei dyfodol.  Rwyf yn teimlo’n gryf fod, trwy ymrwymo â chymunedau ar lefel lleol yn gallu diogelu amrediad o gynefinoedd gwahanol a chynnig y enillion gorau ar fuddsoddiadau.   

Gina Mills (Ymddiriedolwr)

Yn 2018, ymddeolais o'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg ym Mangor lle'r oeddwn, fel Arweinydd Grŵp, yn rhan o'r Tîm Rheoli Gwyddoniaeth. Rwy’n arbenigwr ar effeithiau llygredd aer a newid yn yr hinsawdd ar lystyfiant, ac wedi gweithio ar y rhyngwyneb polisi gwyddoniaeth ar raddfeydd cenedlaethol i fyd-eang, gan gynnwys ar gyfer Confensiwn Llygredd Aer y Cenhedloedd Unedig. Ers 2019, rwyf wedi cyfrannu at YNGC drwy gadeirio'r Grŵp Cynghori Morol. Yn ogystal â rhoi mewnbwn uniongyrchol i'r Cyngor ar weithgareddau morol, fel Ymddiriedolwr, byddwn hefyd yn darparu arbenigedd mewn gwyddoniaeth amgylcheddol, rheoli a datblygu polisi.

Ffion Mitchell-Langford (Ymddiriedolwr)

Ffion Mitchell-Langford, Trustee

Ffion Mitchell-Langford, Trustee

Rydw i’n wyddonydd morol cymwys ac yn Rheolwr Gwirfoddoli ac Ymgysylltu Cymunedol dwyieithog ar gyfer Gogledd Cymru gyda mwy na 4 blynedd o brofiad yn y sector elusennol – gan gynnwys 2 flynedd a hanner mewn ymchwil polisi, rheoli prosiectau ac ymgysylltu â’r gymuned yn y Gymdeithas Cadwraeth Forol, a mwy na blwyddyn o brofiad fel Ymddiriedolwr gyda Chyswllt Amgylchedd Cymru. Yn gefnogwr brwd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’i hymrwymiad i ddod â phobl yn nes at natur, rydw i’n gobeithio cyfrannu ymhellach at ddiogelu dyfodol yr Ymddiriedolaeth drwy ddarparu gwybodaeth a phersbectif ffres fel person ifanc sydd â dealltwriaeth gadarn o lywodraethu da, tirwedd cadwraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

David Wynn Davies (Ymddiriedolwr)

Rwyf yn siaradwr Cymraeg a chefais fy ngeni yn Nyserth ac rwyf wedi byw yn Nhremeirchion am yr 22 mlynedd ddiwethaf yn edrych draw dros y Dyffryn tuag at Warchodfa Natur y Graig yr Ymddiriedolaeth. Rwyf wedi ymddeol ers 2017 fel Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am berthynas y Cyngor â’r Trydydd Sector. Rwyf wedi bod yn ynad lleol, rwyf yn llywodraethwr ysgol, yn aelod o Sir Ddinbych Gynaliadwy ac yn ymddiriedolwr Amgueddfa Dinbych. Rwyf wrth fy modd yng nghefn gwlad a gyda’i rywogaethau ac rwyf yn teimlo’n gryf fel unigolyn sydd â diddordeb bod gennym ni i gyd rôl i’w chwarae mewn gwarchod ein cynefin naturiol.

Sut i ddod yn Ymddiriedolwr

Ydi’r sgiliau ar wybodaeth gennych â all helpu ni redeg Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru? Ystyriwch, os gwelwch yn dda, ymuno â’n tîm o Ymddiriedolwyr cyfeillgar, sydd o wahanol gefndiroedd, y cwbl yn dod â’i cyfraniadau unigryw i helpu ni reoli’r elusen.  Mae ein Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr yn rhoi fwy o wybodaeth am y rôl ac sut i ymgeisio.

Llawr-lwythwch y pecyn yma

Fe all unrhyw aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fod yn Ymddiriedolwr, cyn belled ac maent yn deilwng i sefyll am etholaeth o dan y gyfraith cwmni a chyfraith elusen.  Nid oes angen unrhyw gymwysterau gosodedig, ond bydd angen sgiliau a phrofiad eang er mwyn i’n Pwyllgor o Ymddiriedolwyr fod yn un effeithiol.  Mae ein Ymddiriedolwyr yn cael eu hethol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, sydd ei chynnal pob fis Tachwedd.