Gwirfoddoli gyda Moroedd Byw Cymru
Os ydych chi’n hoffi bod ar lan y môr, beth am wirfoddoli gyda Moroedd Byw Cymru!
Fe allwch chi helpu i gefnogi gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn sy’n amrywio o archwilio pyllau creigiog i ddigwyddiadau’r sioe deithiol, a hefyd monitro ac arolygu. Mae’n ffordd grêt o ddysgu am arfordir Gogledd Cymru a’i archwilio gyda phobl debyg i chi.
Cynhyrfu’r dyfroedd gyda Moroedd Byw Cymru
Mae pob diwrnod gwirfoddoli’n wahanol – does dim angen unrhyw brofiad ac mae hyfforddiant, offer a chefnogaeth wrth law bob amser.
Os ydych chi eisiau ymwneud mwy, rydyn ni hefyd yn chwilio am Hyrwyddwyr Moroedd Byw – pobl i eirioli ar ran amgylchedd y môr ac i chwarae rhan allweddol yn ein hymdrechion cadwraeth morol ni. Bydd hyfforddiant ffurfiol a chefnogaeth ar gael gan ein tîm ni yma yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.