Gwarchod y bywyd gwyllt rydych chi’n ei garu
Gwnewch 2021 yn flwyddyn grêt i chi ac i’r bywyd gwyllt dan fygythiad rydych chi’n ei garu yng Ngogledd Cymru. Ymunwch heddiw o £1.25 y mis a dod yn arwr bywyd gwyllt …
Cost ymaelodi yw llai na 5c y diwrnod er mwyn ymuno â ni a’r 7000 aelod sydd yma yng Ngogledd Cymru.
Cymrwch ran yn y gwahanol weithgareddau, ymwelwch â 36 o warchodfeydd gwych a chael mynediad i dros 140 o ddigwyddiadau tra’n teimlo’n braf gan wybod y bo chi yn cyfrannu’n unol i warchod bywyd gwyllt bregus ar draws Ogledd Cymru.
Prynwch aelodaeth ar gyfer rhywun arall
Mae darparu rhaglenni cadwraeth i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r tirweddau llawn bywyd gwyllt rydyn ni’n eu mwynhau heddiw’n dasg enfawr. Rydyn ni’n dibynnu llawer iawn ar aelodau i greu’r cyllid sydd ei angen i wneud hyn. Ni allwn ddiogelu cynefinoedd gwerthfawr a bywyd gwyllt bregus Gogledd Cymru heb gefnogaeth y rhai sy’n byw ac yn gweithio o’u hamgylch.
Fe rydym yn dallt y bod ymaelodi â ni yn ymroddiad mawr a dwi’n siŵr y bod gennych gwestiwn neu ddau i’w gofyn – felly teimlwn y basa chi’n hoffi ein adnabod ni’n well, gwthiwch y linc ar waelod y dudalen yma, os gwelwch yn dda am ragor o wybodaeth.

Wild Places to Explore - English Version
Ymunwch Heddiw a derbyn Llefydd Gwyllt i’w Darganfod yn anrheg am ddim. (RRP £7.50)
Y canllaw newydd i rai o’r llefydd mwyaf arbennig i fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru. Mae’r llyfr yn cynnwys y 36 o warchodfeydd natur sydd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’r gwarchodfeydd hyn ymhlith yr esiamplau gorau o gynefinoedd lled-naturiol yn yr ardal, gan ddarparu gwarchodaeth i rywogaethau prin a llefydd i bobl fwynhau bywyd gwyllt.
Hefyd mae’r llyfr yn ceisio eich helpu chi i gael y gorau o’ch ymweliad â gwarchodfeydd YNGC a’i llecynnau pwysig i fywyd gwyllt ar hyd yr arfordir.

©The Wildlife Trusts

©NWWT
Byddwch yn cael y canlynol...
• Canllawiau i'ch gwarchodfeydd natur leol • Tri rhifyn o gylchgrawn Natur Gogledd Cymru
• E-gylchlythyr natur wythnosol • Mynediad i fwy na 140 o ddigwyddiadau

Mark Roberts ©NWWT
Aelodaeth teulu
Hefyd mae aelodau’r teulu’n derbyn pecyn croeso gwych i blant a phedwar rhifyn o gylchgrawn Gwyllt! - yn llawn gwybodaeth, cystadlaethau, posau a phrosiectau!
Am gyfnod Cyfyngedig, bydd aelodau teulu Cymru yn derbyn copi o 'Y Wiwer’ hefyd, sydd wedi'i ysgrifennu gan Fiona C.Lunn.
Rhoddwyd pob copi o 'Y Wiwer' i'r Ymddiriedolaethau Natur gan yr awdur, Fiona C. Lunn.Mae Fiona yn cyhoeddi ei straeon drwy Lunn Learning sy'n sefydliad dielw sy'n gwasanaethu yn y gymuned ac sy'n darparu mecanwaith i greu ffrwd incwm ar gyfer elusennau bywyd gwyllt a chadwraeth Prydain.
Mae dysgu am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi gwneud i mi fod â mwy o ddiddordeb yn ein byd gwyllt rhyfeddol ni. Mae wedi fy ysbrydoli i i fod yn aelod – a gwneud gardd fywyd gwyllt adref!
Iolo Williams
Ydych chi eisiau ymuno ar-lein? Mae croeso i chi argraffu ein ffurflen Debyd Uniongyrchol a’i phostio atom ni!
Telerau ac Amodau – Sêl Ionawr 2021
- Mae’r cynnig yn agored i aelodau newydd o'r Ymddiriedolaeth
- Ni all unrhyw aelodau presennol a/neu aelodau a ymunodd â'r Ymddiriedolaeth am hanner pris fel rhan o sêl mis Ionawr y llynedd wneud hynny eto eleni
- Mae’n agored i aelodaeth unigol, ar y cyd a theulu
- Mae’r cynnig yn ddilys rhwng dydd Sadwrn 26ain Rhagfyr 2020 a dydd Sul 31ain Ionawr 2021
- Dim ond drwy daliad debyd uniongyrchol mae’r cynnig hanner pris ar gael. Ar ôl i'r flwyddyn gychwynnol ddod i ben bydd y tanysgrifiad yn cynyddu'n awtomatig i gyfradd danysgrifio leiaf lawn yr Ymddiriedolaeth
- Nid oes unrhyw ddulliau talu eraill yn berthnasol i'r cynnig hwn
- Y cynnig yw 50% o'n cyfradd danysgrifio leiaf ar gyfer aelodaeth Unigol, Ar y Cyd neu Deulu
- Nid yw’r cynnig hwn yn bosib ar y cyd ag unrhyw gynnig arall
- Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cadw'r hawl i dynnu'r cynnig yn ôl ar unrhyw adeg
- Mae’r cynnig yn ddilys drwy ymuno ar wefan yr Ymddiriedolaeth a gyda staff yr Ymddiriedolaeth