Ein Partneriaid Naturiol

Pentre Maelor / Ecodek raised bed
CEFNOGAETH CORFFORAETHOL

Ein Partneriaid Naturiol

Abakhan
Abakhan Fabrics, Hobby & Home yw un o brif gyflenwyr Defnyddiau, Crefftau a Gwlân Gwau y DU, gyda 7 siop ledled y DU a siop ar-lein. Rydym yn cyfrannu elw ffi bag siopa Llywodraeth Cymru i YNGC ac fe wnaethom gerdded 20 milltir i godi mwy na £7,000 ym mis Mehefin 2014!

Ad Astra Caravan Park
Parc teuluol ar gaeau fferm ac yng nghanol gwrychoedd, ddwy filltir yn unig o’r traeth a’r bae ym Menllech. Ein nod ni yw darparu ar gyfer ymwelwyr sy’n chwilio am wyliau tawel a heddychlon mewn amgylchedd naturiol, gyda chroeso cynnes a gwasanaeth o’r safon uchaf.

Albion Eco
Yn cyflenwi dŵr i ddiwydiant lleol ers 1999, mae Albion Eco a'i berchennog, Waterlevel, yn awyddus i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy, hyrwyddo newyddbeth a chefnogi cymunedau hydwythedd. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd iach a bioamrywiaeth lewyrchus.

Airbus
Mae gweithwyr Airbus wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar brosiectau amrywiol i helpu plant i ddeall natur a bywyd gwyllt a sut gallant gyfrannu at ddyfodol gwyrdd, gan ddangos sut gall busnes a chadwraeth weithredu law yn llaw.

Anglesey Sea Zoo
Mae atyniad pob tywydd blaenllaw Ynys Môn yn gartref i fwy na 150 o rywogaethau o bob cwr o’n harfordir. Ymhlith y nodweddion arbennig mae’r Parth Dim Asgwrn, Llongddrylliad Seven Sisters, Pwll Siarcod, Coedwig Môr-wiail a chyfle i weld cadwraeth ar waith yn Neorfa’r Cimychiaid ac ym Meithrinfa’r Ceffylau Môr.

Atlas Copco Henrob
Arloeswyr ac arweinwyr marchnadol yn y maes o rhybed hunan-rwyllo yw Atlas Copco Henrob, proses o ffasnin mecanyddol sy’n addas i gysylltu alwminiwm ac hefyd defnyddiau cymysg eraill na all eu weldio yn ddibynadwy. Rydym yn ymrwymedig i wthio ffiniau technoleg RHR i lefelau newydd.

Boltholes and Hideaways
Mae gan Boltholes and Hideaways fythynnod mewn lleoliadau hyfryd yng nghanol byd natur ac yn cynnig yr heddwch a'r llonyddwch rydyn ni i gyd yn dyheu amdano. Rydyn ni'n gobeithio y gallwn wneud ein rhan i helpu drwy gefnogi bywyd gwyllt drwy aelodaeth, gweithredu mewn ffordd gynaliadwy yn lleol, helpu gyda glanhau traethau ac estyn allan at ein gwesteion. 

Breedon Aggregates
Breedon Aggregates yw’r cwmni agregau annibynnol mwyaf yn y DU. Rydym yn cydnabod ein hymrwymiadau o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforedig ac yn ailddosbarthu ein gwariant yn yr economi leol. Rydym hefyd yn annog safonau uchel o ran ymddygiad corfforedig amgylcheddol.

BroadbandUK
Mae BroadbandUK yn ganllaw annibynnol blaenllaw i fand eang. O brofi cyflymder y rhyngrwyd i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i'r darparwr band eang gorau, rydym yn darparu gwybodaeth foesegol sy'n cael ei harwain gan ddefnyddwyr y gallwch ymddiried ynddi. Fel rhan o'n cyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cadwraeth bywyd gwyllt a lleihau ein heffaith amgylcheddol a'n hôl troed carbon lle bynnag y bo modd.

Coleg Cambria
Coleg Cambria, yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yw un o golegau mwyaf y DU gyda mwy na 7,000 o fyfyrwyr llawn amser ac 20,000 o ddysgwyr rhan amser. Mae ganddo gysylltiadau rhyngwladol sy’n ymestyn dros bedwar cyfandir. Ein Gweledigaeth yw bod yn “goleg rhagoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol".

Enfinium Parc Adfer
Adnodd sydd yn cyfuno gwres a phŵer yw Enfinium Parc Adfer sydd yn prosesu hyd at 200,000 tunnell o wastraff gweddilliol ac yn gwasanaethu pump o awdurdodau lleol trwy Ogledd Cymru:  Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.

Hauck UK Ltd
Mae eitemau fuddugoliaethus i fabis Hauck UK Ltd yn gofalu am holl anghenion rhieni ym mhob agwedd bywyd o ddydd i ddydd, yn darparu safon uchel a dibynadwy Hauck ac hefyd am bris rhesymol. Mae ein amrywiaeth o eitemau yn cynnwys coetsis, cadeiriau uchel, crudiau, seti ceir a amryw o eitemau diogelwch cartref.

Parc Gelli Gyffwrdd
Parc antur coedwigol yn llawn brwydro, cyffwrdd a sbort – wedi enwi yr Atyniad Teuluol Gorau yng Ngogledd Cymru!  Wedi ei leoli o dan goed Parc Cenedlaethol Eryri gyda gweithgareddau i blant bach hyd at oedolion, o rholio ar y ffigar-êt i sblasio ac medr mega, newch chi byth redeg allan o rhywbeth i’w wneud. 

holidaycottages.co.uk
Mae holidaycottages.co.uk yn cynnig dewis o fwy na 2,000 o eiddo gwyliau ledled y DU. O lecynnau gwledig i fflatiau ar lan y môr, bythynnod clyd i ddau neu blastai i 22, mae rhywbeth addas i bawb ar gael.

Innovation Property Environmental Services
Mae Innovation Property Environmental Services yn gwmni ymgynghori amgylcheddol integredig a chenedlaethol. Mae’n arbenigo mewn cyngor a datrysiadau ymarferol o safon uchel ar gyfer y sectorau Llywodraethol, Yswiriant, Peirianneg Sifil, Landlordiaid Cymdeithasol Preswyl, Gwasanaethau Ariannol a Datblygu.

Gwesty Isallt
Wedi leoli yng nghanol Blaenau Ffestiniog, Eryri, mae Gwesty Isallt, yn fusnes gwely a brecwast gyda thair seren gan CroesoCymru. Yn gyfagos i reilffordd Ffestiniog, mae wedi leoli yn ddelfrydol er mwyn teithio o amgylch Parc Cenedlaethol Eryri a dim ond tro bur o Portmeirion, Betws-y-Coed, Llanberis a’r Wyddfa!

Jewels Glassware
Cwmni annibynnol newydd yw Jewels Glassware,  yn seiliedig yn bennaf ar ansawdd a dilysrwydd, y nod yw cynnig profiad diguro i chi tra rydych yn mwynhau eich amseroedd gorau.  Trwy gyfuno ansawdd da gyda dyluniadau arloesol, syniad ein llestri gwydr unigryw yw i greu argraff ac i ychwanegu cyffyrddiad arbenigol i’ch achlysuron mwyaf cywrain.

Clwb Golff Maesdu
Mae Clwb Golff Maesdu, Llandudno, eisoes wedi cymryd pob math o gamau er lles eu bywyd gwyllt lleol. Rydym yn gobeithio gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Natur i wella’r cynefinoedd sy’n bresennol ar y cwrs ymhellach ac annog rhywogaethau newydd, fel ystlumod a thylluanod, i ymweld a gwneud eu cartrefi ochr yn ochr â ni.

Safle Gwersyllt ac Ysguboriau Llyn Gwynant
Mae ein maes gwersylla ni wedi'i leoli ar lan Llyn Gwynant ac yn cynnig gwersylla yn ôl i fyd natur yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r safle wrth droed mynydd ac ar lan afon a llyn – llecyn perffaith i fentro dringo'r Wyddfa. Mae Ysguboriau Llyn Gwynant gerllaw'r safle ac mae gan ei adeiladau carreg rhestredig cain a'r terasau llechi gaeau gwersylla preifat yn rhedeg i lawr at y llyn. Mae hwn yn lleoliad perffaith ar gyfer priodasau a dathliadau eraill lle gallwch chi dreulio'r penwythnos gyda'ch gwesteion, yn gwersylla os ydych yn dymuno. Mae’r ddau wedi’u lleoli ar fferm fynydd ac mae gennym ni Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel partner i warchod y gwerthoedd naturiol i fodau dynol eu mwynhau ac i fywyd gwyllt ffynnu.

Kehoe Countryside
Mae Kehoe Countryside yn fusnes teuluol yng Ngogledd Cymru gyda blynyddoedd o brofiad ym mhob agwedd ar wasanaethau cefn gwlad safonol ac ymarferol. Rydym yn arbenigo mewn gweithio ar dir sydd o werth i fywyd gwyllt ac i gadwraeth. Rydym yn credu mewn defnyddio deunyddiau naturiol a gweithio mewn ffordd sensitif i’r amgylchedd.

Mae Kendley Ltd yn gwmni blaenllaw yn myd gwaith dur strwythurol a gwneuthuriad dur sy'n gweithredu ledled Gogledd Cymru a'r DU. Rydym yn arbenigo mewn manylu, gwaith cynhyrchu, cyflenwi a gosod pob agwedd o ddur strwythurol.

Asynnod Moel Famau
Rydym yn angerddol tros natur, y byd allanol ac iechyd meddwl.  Wedi trigo ar lethrau Moel Famau ers tair cenhedlaeth bellach, penderfynwyd gennym y bo rhaid i eraill brofi harddwch naturiol yr ardal gan greu profiad unigryw i bob oedran.  Hyd yn oed os ydych am ddiwrnod allan gyda’r teulu, y diwrnod cariadus cyntaf perffaith, digwyddiad busnes neu yn syml cysylltu yn ôl gyda natur ar awyr iach, fe ddarganfyddwch y bo hi’n amhosibl gadael heb wen ar eich wyneb! 

Original Cottages
Mae Original Cottages yn dod â thros 5,600 llety ynghyd trwy ein teulu. Mae Prydain yn llawn o olygfeydd syfrdanol gyda storïau i ymadrodd.  Gwyliau yw y ffordd i ddarganfod yr atgofion hynny – a da ni yma i’ch helpu chi ddarganfod hwy.  Rydym hefyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r sefydliadau gwych sy'n amddiffyn ac yn sicrhau dyfodol yr ardaloedd hyn, ac rydym yn hynod falch o gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – ac fe fyddwn yn parhau i wneud hyn am flynyddoedd lawer i ddod.

Outdoor Alternative
Mae Outdoor Alternative yn darparu llety i grwpiau yn Rhoscolyn ar Ynys Môn ac mae cynaliadwyedd amgylcheddol a hybu addysg amgylcheddol wrth galon gwaith y cwmni.

P&A Group
Wedi ei sefydlu yn 1985 mae P&A Group yn cynnwys Zest, brand blaenllaw cynnyrch gardd cynaliadwy, Canolfan Arddio a Chaffi Woodworks a P&A Pallets. Gyda’u paneli heulol, cynaeafu dwr glaw a’u gwres biomas o wastraff naddion pren mae P&A yn ymroddedig i gynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth amgylcheddol trwy leihau tarthiadau carbon - yn ymdrechu i fod yn garbon niwtral.

Psyched Paddleboarding
Psyched Paddleboarding yw arbenigwyr rhwyf-fyrddio ar eich traed (RAET) yng Ngogledd Cymru sydd yn cynnig profiadau RAET gwir arbennig. Gyda Psyched Paddleboarding fe gewch archwilio arfordiroedd syfrdanol garw Ynys Môn, mwynhau y llonyddwch o arnofio ar lyn tawel yn Eryri, ail chysylltu â natur, cymryd ychydig o amser i ffwrdd o gyflymder bywyd dyddiol. Dyma’r amseroedd rydym yn drysori.

RAW Adventures
Wedi ei leoli yng Ngogledd Eryri, mae RAW Adventures yn ddarparwr sefydlog o weithgareddau mynydda i unigolion, teuluoedd a grwpiau.  Mae’n hoff iawn gennym ddatblygu sgiliau mynydda a hyder, archwilio llefydd newydd a dysgu mwy am yr amgylchedd fynydd-dir.  Mae anturiaethau bach a mawr yn ran o fywyd pob diwrnod.  Ymunwch â ni ar daith ...

Riello UPS
Mae Riello UPS yn datblygu atebion yn gyson sydd wedi anelu at gynyddu safon egni, lleihau defnydd egni, cynyddu effeithiolrwydd a chymryd rhan yn weithredol mewn hybu cynaladwyedd. Bwriad ein ymrwymiadau cymdeithasol yw helpu’r presennol yn ogystal â llunio dyfodol llachar, yn cynnwys yr angen anochel y gofyn am egni gyda amddiffyn amgylcheddol.

Rowan Foods
Mae Rowan Foods yn cyflogi mwy na 800 o weithwyr ar ein safle yn Wrecsam. ‘Rydym yn arbenigo mewn bwydydd sydd wedi eu paratoi i’r mân-werthwyr groser uchaf yn y DU. ‘Rydym o’r farn fod y diwydiant bwyd hefo rhan bwysig i chware mewn cyflawni dyfodol sydd yn fwy cynaliadwy. ‘Rydym yn falch iawn o ein Cynllun Bioamrywiaeth, wedi ei ddatblygu gyda chymorth y YNGC.

Snowdon Mountain Railway
Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn mynd â chi ar siwrnai oes fythgofiadwy i gopa Cymru. Mae’r Wyddfa, yn 3,560 troedfedd o uchder, yn frenhines tirlun Parc Cenedlaethol Eryri.

Snowdonia Fire Protection
Mae Snowdonia Fire Protection yn gwmni teuluol a sefydlwyd yn 1974.  Rydym bellach yn  un o’r cwmnïau tân a diogelwch mwyaf yng Nghymru, gyda 85 o weithwyr sy’n byw yng Nghymru, Swydd Amwythig a Cilgwrli.  Rydym yn dylunio, cyflenwi, gosod a chadw ;larymau tân; systemau larymau lladron, systemau ysgeintio dŵr, TCC a drysau electronig; offer diffodd tân; a goleuadau argyfwng.

Sugar & Loaf
Mae Sugar & Loaf yn darparu bythynnod gwyliau a chyfleoedd am ddihangfa glampio unigryw ledled Cymru. Yn hoff iawn o ddarparu profiadau sy’n dod â gwesteion yn nes at natur, mae eu bythynnod i’w gweld mewn lleoliadau gwledig yn rhai o’r tirweddau gwylltaf a mwyaf rhyfeddol yng Ngogledd Cymru.  

Sykes Holiday Cottages
Mae’r ddihangfa perffaith yn eich disgwyl gyda Sykes Holiday Cottages.   Un o’r asiantaethau annibynnol blaenllaw yn y DU sydd yn gosod bythynnod, mi fyddech yn siŵr o ddarganfod eich antur nesaf yng Ngogledd Cymru.  Ymgollwch eich hunan yn ysblennydd a harddwch Parc Cenedlaethol Eryri, mwynhewch yr arfordir eidylig, neu gwneud y gorau o fwthyn anwes-gyfeillgar hefo eich cyd-deithiwr cïol;  mae digon o ddewis i chi.  Dyma eich hamser chi, defnyddiwch yn ddoeth.

Tarmac
Mae Tarmac yn fenter ar y cyd a ffurfiwyd wedi i Lafarge UK a’r busnes Eingl Americanaidd Tarmac uno i greu cwmni deunyddiau a gwasanaethau adeiladu mwyaf blaenllaw y DU. Rydym yn rhoi sylw i bedwar maes busnes: Readymix, Sment a Chalch, Contractio ac Agregau ac Asffalt.

Toyota Motor Manufacturing
Mae Toyota wedi ymrwymo i weithio gyda’n cymunedau lleol er mwyn hyrwyddo a gwella’r amgylchedd rydym yn gweithredu ynddo. Rydym yn falch o gael ein gweld fel cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Natur ac yn cydnabod pwysigrwydd annog a meithrin diddordeb mewn bioamrywiaeth a bywyd gwyllt, sydd o’n cwmpas ym mhob man.

Wales Cottage Holidays
Rydym yn cynnig casgliad syfrdanol o fythynnod gwyliau yng Ngogledd Cymru – pob un wedi’i ddewis o’n hamrywiaeth eang o lety o safon, wedi’i ddewis â llaw, wedi’i wasgaru ledled Cymru fel y gallwch ddod o hyd i’ch dihangfa Gymreig berffaith!