Beached! Beth sy'n dod i’r lan ar eich traeth chi?

A common Whelk shell. A spiral shell with pale brick red, orange and yellow colours. Sat on a beach of small pebbles, glistening in the sun.

Common whelk shell after storm Ophelia © NWWT

Beached! Beth sy'n dod i’r lan ar eich traeth chi?

Lleoliad:
Benllech Community & Ex Servicemen's Hall, B5108, Anglesey, LL74 8SL
Gallwch ddod o hyd i bob math o bethau wedi'u golchi i’r lan ar draethlin gwahanol draethau! Dewch draw i ddysgu sut i ddefnyddio eich sgiliau cribo traeth i helpu cadwraeth bywyd gwyllt yn y gweithdy ymarferol yma.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Neuadd Cyn-filwyr Benllech, y tu ôl i Tesco Express (SH 51793 82874; W3W: losing.octopus.stared; LL74 8SL)
View on What3Words

Dyddiad

Time
11:00am - 2:15pm
A static map of Beached! Beth sy'n dod i’r lan ar eich traeth chi?

Ynglŷn â'r digwyddiad

Mae Beached! yn brosiect sy'n annog pobl i ddysgu mwy am yr hyn sy'n cael ei olchi i’r lan ar eu traethau. Yn y gweithdy yma byddwch yn dysgu sut i adnabod yr hyn rydych chi’n ei ddarganfod ar y traeth, yn dysgu ble i'w cofnodi nhw a bydd cyfle hefyd i ddod yn gofnodwr rheolaidd ar eich darn chi eich hun o'r traeth.

Fe fyddwn ni’n dechrau yn y neuadd ac wedyn yn mynd i'r traeth i weld allwch chi ddefnyddio’r hyn rydych chi wedi'i ddysgu.

Nodwch y manylion cyfarfod yn fanwl gywir a nodwch rif ffôn symudol yr arweinydd rhag ofn.

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Dewch â dillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ar y diwrnod ac ar gyfer amgylchedd traeth hallt a gwlyb. Mae’r mynediad i'r traeth i lawr llithrfa ac i lan dywodlyd, wastad.

Mae toiledau yn y neuadd, ond nid ar y traeth. Mae trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd i Fenllech.
 

image/svg+xmli

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni