Gelli prints © Jwls Williams
Gweithdy Creu Printiau Gelli
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch draw am weithdy creadigol lle byddwch chi'n archwilio gwahanol ffurfiau planhigion drwy amrywiaeth o brosesau argraffu hwyliog a hygyrch.
Dan arweiniad yr artist lleol Jŵls Williams, bydd y gweithdy creadigol dwy awr yma’n eich helpu chi i gysylltu â bywyd planhigion anhygoel, gan archwilio pwnc planhigion ymledol a'u heffaith ar dirweddau ehangach, gwylltach.
Perffaith ar gyfer dechreuwyr a gwneuthurwyr profiadol fel ei gilydd. Oedran 16+ yn unig.
Mae y gwesteiwr y digwyddiad yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim. Os byddwch chi'n archebu tocyn ond wedyn yn penderfynu peidio â dod neu'n methu dod, rhowch wybod i ni drwy Eventbright. Yn aml, mae ein digwyddiadau ni am ddim yn llawn ac mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosibl fwynhau'r digwyddiad. Beth am edrych ar ein harddangosfa newydd tra byddwch chi yma?
Rhan o'n prosiect Dihangwyr Gerddi yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy'n cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei chyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Bwcio
Pris / rhodd
Croesawn roddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestru16+ yn unig