Swyddog Prosiect: Gwneud Traciau

Swyddog Prosiect: Gwneud Traciau

Diwrnod cau:
Cyflog: £23-£28K
Math y cytundeb: Cyfnod penodol / Oriau gweithio: Llawn amser
Hybrid
Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect ar gyfer Prosiect Gwneud Traciau, sy'n anelu at adfer cynefinoedd, gwella mynediad a chysylltedd ac ymgysylltu â chymunedau o amgylch Gerddi Coffa Porthllwyd, Dolgarrog. Mae'r rôl hon yn cyfuno cyfrifoldebau swyddog gwarchodfa natur ag ymgysylltu â'r gymuned.

Gan weithio gyda Chyngor Cymuned Dolgarrog, Cyfoeth Naturiol Cymru, RWE a'r gymuned leol, nod Prosiect Gwneud Traciau yw creu tirwedd iach, rhyng-gysylltiedig rhwng Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Dolgarrog a Gerddi Coffa Porthllwyd, sy'n gwella bioamrywiaeth ac yn ymgysylltu â'r gymuned leol. Mae'r rôl hon yn cyfuno cyfrifoldebau swyddog gwarchodfa natur ag ymgysylltu â'r gymuned, gan weithio i sefydlu a gwella safleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a gwella llwybrau cerdded.

Bydd gennych brofiad o arferion cadwraeth bywyd gwyllt gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, yn ogystal ag ymgysylltu â'r gymuned a chynllunio digwyddiadau. Byddwch yn gyfathrebwr gwych gyda steil personol ac ymagwedd ddoeth a all weithio gyda chymunedau amrywiol ar amrywiaeth o weithgareddau. 

Byddwch yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored gan gynnwys gwaith ymarferol a byddwch yn mwynhau datrys problemau. Mae hon yn rôl newydd a fydd yn esblygu yn dilyn eich penodiad felly dylech fod yn gyffrous am hyblygrwydd y rôl a'r cyfleoedd i fabwysiadu ymagwedd arloesol.

Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, uniondeb, actifiaeth pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn angerddol wrth hyrwyddo ein hamcanion, nid ydym yn feirniadol ac rydym yn gynhwysol. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol yn wirioneddol. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif iawn. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad. Gall y rôl hon fod yn destun gwiriad DBS.

Sut i wneud cais
Cyflwynwch CV, llawn gan gynnwys eich rhesymau dros fod eisiau'r swydd, i hr@northwaleswildlifetrust.org.uk erbyn 29 Medi 2025.
 

Logo for Heritage Fund and Welsh Government

Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 4) yn cael ei darparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.