
Barn owl ©Andy Rouse/2020VISION
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mewn cilfan ar y ffordd sy'n mynd tua'r gogledd o Lanbedrgoch. Mae llefydd parcio ar gael mewn cilfan fawr cyn cyrraedd y warchodfa o'r de.
Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Calan Gaeaf yng Nghors Goch — digwyddiad am ddim yn ystod y dydd, sy'n addas i deuluoedd, gyda gweithgareddau natur arswydus a llwybr Calan Gaeaf.
Cyfle i archwilio’r corsydd hudolus, bod yn grefftus a chreu creadigaethau brawychus, a phrofi eich gwybodaeth gyda'n cwis ni am ystlumod a thylluanod ar hyd y ffordd.
Mae'r llwybr yn addas ar gyfer pob oed. Gwisgwch ar gyfer y tywydd a'r awyr agored — mae’r gors yn gallu bod yn fwdlyd mewn mannau!
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Rhan o brosiect Corsydd Calon Môn.
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.
Bwcio
Pris / rhodd
Mae croeso i roddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestru.Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Yn addas ar gyfer
Teuluoedd, DechreuwyrGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Cysylltwch â ni
Edrychwch ar beth wnaethon ni y llynedd yn y fideo isod!