
Llyn Brenig landscape © NWWT
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Taith gerdded gylch yn dechrau yng Ngwylfan y Gweilch y Pysgod yn Llyn Brenig ac yn croesi'r argae a thrwy goetir.
O dan arweiniad Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig, mae'r digwyddiad yma’n gyfle i chi ailgysylltu â byd natur a rhannu eich angerdd dros fywyd gwyllt. Os ydych chi'n wyliwr adar profiadol neu'n chwilio am ddihangfa heddychlon, mae hon yn ffordd ragorol o gefnogi achos gwych wrth fwynhau harddwch y dirwedd o'ch cwmpas chi.
Mae'r holl elw’n cefnogi gwaith Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig i warchod y gweilch sy'n magu ar y safle ac i helpu pobl i gysylltu â'r adar ysglyfaethus anhygoel yma.
Mae'r daith gerdded gylch yma ar lefel ganolig tua 5 milltir o hyd.
Llwybr Cerdded Elorgarreg llynbrenig.com/elorgarreg-walking-trail
Byddant yn arwain teithiau cerdded misol yng nghefn gwlad o amgylch Llyn Brenig, felly cadwch lygad am fwy o ddigwyddiadau i ddod yn fuan!
Bwcio
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn.