Os gwnewch chi fentro allan ar rostir ar noson o haf, efallai y cewch chi eich cyfarch gan sŵn anarferol. Gallai fod yn fecanyddol bron. Rîl hir, estynedig, fel sŵn injan fechan yn troi. Mae'n para ymlaen ac ymlaen am funudau ar y tro, gan newid gêr o bryd i'w gilydd, newid bach mewn traw: 'errrrrrrrrr….urrrrrrrrrrr'. Ac wedyn, ar ryw signal anweledig, mae'n dod i ben, naill ai'n stopio'n sydyn neu'n dirwyn i ben fel pe bai'r injan yn methu.
Cân y troellwr mawr ydi hon, sy’n cael ei hadnabod fel rhincian. Efallai nad ydi hi mor gymhleth â chan y teloriaid, ac efallai nad ydi hi mor enwog â chân yr eos, ond dydi hi ddim yn llai emosiynol. Mae'n sŵn i danio'r dychymyg. Beth allai gynhyrchu sŵn o'r fath? Gan mai dim ond yn y gwyll mae troellwyr mawr yn symud, mae rhywun yn eu clywed yn amlach na’u gweld. Mae hyn wedi creu rhyw ddirgelwch amdanyn nhw erioed, gan arwain at sawl llysenw rhyfedd a mythau rhyfeddach fyth.